Enillydd Gwobr David Davies yn graddio
Giles Polglase
12 Gorffennaf 2011
Mae Giles Polglase, aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cipio Gwobr David Davies am Reolaeth Adnoddau Dynol 2011 (MBA) am berfformiad academaidd nodedig, a bydd yn graddio heddiw gyda Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.
Giles yw Cydgysylltydd Cynorthwyol y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd (GDSYA) yn y Brifysgol, a dechreuodd ei MBA yn 2008. Cwblhaodd ei MBA tra’n gweithio i’r Brifysgol fel han o Gynllun Datblygu Personol Prifysgol Aberystwyth sy’n annog staff i gyfranogi mewn datblygiad proffeisynol drwy ddilyn modiwlau a chyrsiau gradd tra’n gyflogedig.
Meddai Giles: “Hwn yw’r cwrs academaidd gorau imi ei gwblhau o bell ffordd. Ro’n i’n gallu trosglwyddo’r theori a ddysgais ar y diwrnod cyntaf o’r cwrs yn syth i fy arferion yn y gwaith, ac roedd hynny yn ei dro yn galluogi imi briodoli’r ymarfer a theori. Rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr ac i gael ymuno â chymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.”
Yn ogystal ag MBA, mae gan Giles hefyd radd BSc mewn Polisi Cymdeithasol o Brifysgol Caerfaddon, Tystysgrif Addysg i Raddedigion o Brifysgol Strathclyde a Diploma Ôl-radd mewn Gweinyddu Cymdeithasol o Brifysgol Rhydychen. Cyn iddo ymuno â staff Prifysgol Aberystwyth yn 2008, roedd Giles yn rhedeg ei fusnes ei hun ym Mhontrhydfendigaid.
Meddai Nick Perdikis, Cyfarwyddwr yr Ysgol Reolaeth ac Astudiaethau Busnes: “ Rwy’n llongyfarch Giles ar ei lwyddiant sylweddol. Mae nifer o’n staff yn ymgymryd ag astudio MBA tra’n gyflogedig o fewn y Brifysgol ac rwy’n falch eu bod yn gallu cymhwyso’r hyn maent yn ei ddysgu a’i roi ar waith, a bod y Brifysgol yn gallu elwa o hynny. Rwy’n dymuno’n dda i holl raddedigion yr Adran ac yn gobeithio y byddant yn llwyddo i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus a gwerth chweil.”