Enillydd Sialens y Prifysgolion Veritas yn Graddio

Christopher Smith

Christopher Smith

12 Gorffennaf 2011

Mae Christopher Smith, myfyriwr yn yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac enillydd cystadleuaeth cyfieithu Veritas Language Solutions, yn graddio heddiw.

 

Mae Christopher, sy’n wreiddiol o Essex, yn graddio gyda Bagloriaeth y Celfyddydau 2:i anrhydedd mewn Ieithoedd Ewropeaidd wedi iddo astudio Sbaeneg a Ffrangeg fel ei brif bynciau ag Almaeneg fel is-bwnc. 

 

Bu Christopher yn ymgeisydd diweddar yng nghystadleuaeth cyfieithu Veritas Language Solutions a oedd yn gwahodd myfyrwyr o brifysgolion ar draws Prydain, Sbaen a’r Eidal i brofi eu gallu ieithyddol drwy gyfieithu o un iaith i’r llall.  Cafodd gryn lwyddiant gan gipio’r wobr am y cyfieithiad gorau o’r Sbaeneg i’r Saesneg, ac yna ennill y wobr am y cyfieithiad gorau un. 

 

Dywedodd beirniaid y gystadleuaeth: “Christopher oedd y sgoriwr uchaf yn y gystadleuaeth, roedd hi’n bleser i ddarllen ei gyfieithiad.  Roeddem i gyd yn gytun bod ganddo’r rhesymau gorau dros eisiau ennill y cyfnod fel intern, gan ddangos dealltwriaeth arbennig o Veritas a’n ethos.”

 

Ar ol graddio bydd Christopher yn cwblhau ei gyfnod fel intern gyda Veritas cyn symud i Tsiena am flwyddyn i weithio fel athro Saesneg.

 

Dywedodd Christopher: “Rwyf wrth fy modd fy mod yn graddio heddiw ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r hyn sydd ar y gorwel.  Cefais amser gwych yn astudio yn Aberystwyth ac rwy’n drist i fod yn gadael y Brifysgol a’r dref a fu’n gartref i mi am dair blynedd.  Fodd bynnag, credaf fod fy ngradd yn sylfaen dda ar gyfer datblygu fy ngyrfa fel ieithydd.”

 

Dywedodd Yr Athro David Trotter, Pennaeth yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd: “Rwyf wrth fy modd bod Chris wedi llwyddo i ennill y gystadleuaeth fawreddog hon.   Mae’n brawf o’i waith caled a’i allu ieithyddol yn ogystal a chadarnhad ein bod yn gwneud gwaith da yn ein dysgu ieithyddol.”