Prifysgol Aberystwyth yn urddo saith Cymrawd
Wythnos Graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth
11 Gorffennaf 2011
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn urddo saith Cymrawd yn ystod Seremonïau Graddio 2011 sydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon, o Ddydd Mawrth 12 tan Ddydd Gwener 15 Gorffennaf.
Dyfernir teitl Cymrawd i anrhydeddu unigolion nodedig sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd proffesiynol neu fywyd cyhoeddus Cymru.
Cymrodyr 2011 (yn y drefn yn byddant yn cael eu cyflwyno):
Robert Peston: Golygydd Busnes y BBC; Sylfaenydd ‘Speakers for Schools’.
Cyflwynir Mr Peston gan Mr Nicholas Perdikis, Cyfarwyddwr Ysgol Reolaeth a Busnes Aberystwyth, am 3 o’r gloch brynhawn Mawrth 12 Gorffennaf.
Yr Athro Mary Elizabeth King: Cyn-fyfyrwraig Prifysgol Aberystwyth; Awdur; Gweithredwr Hawliau Sifil a Rhyw; Cynghorydd Arlywyddol UDA.
Cyflwynir yr Athro King gan yr Athro Michael Foley, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol am 11 o’r gloch fore Mercher 13 Gorffennaf.
Gwir Anhr. Arglwydd Istys Pill: Arglwydd Istys Apel.
Cyflwynir y Gwir Anhr. Arglwydd Istys Pill gan Mr Winston Roddick QC, Is Lywydd Prifysgol Aberystwyth am 11 o’r gloch fore Iau 14 Gorffennaf.
Dr Jianzhong Wu: Cyfarwyddwr Llyfrgell Shanghai a’r Sefydliad Gwybodaeth Gwyddonol a Thechnegol.
Cyflwynir Dr Wu yn ei absenoldeb gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, am 11 o’r gloch fore Iau 14 Gorffennaf.
Is-Gadfridog Jonathon Riley: Cyfarwyddwr Cyffredinol a Meistr yr Arfdai Brenhinol; Milwr; Academydd ac Awdur.
Cyflwynir yr Is-Gadfridog Jonathon Riley gan yr Athro Martin Alexander o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol am 3 o’r gloch brynhawn Iau 14 Gorffennaf.
Yr Athro Christianne Glossop: Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru.
Cyflwynir yr Athro Glossop gan yr Athro Will Haresign, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydlaid y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad, am 11 o’r gloch fore Gwener 15 Gorffennaf.
Dr Clive James: Cadeirydd a Sylfaenydd yr International Service for the Acquisition of Agribiotech Applications (ISAAA).
Cyflwynir Dr James gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad, am 3 o’r gloch brynhawn Gwener 15 Gorffennaf.