Pam i Gymru ddweud IE.

Y Senedd

Y Senedd

21 Mehefin 2011

Why Wales Said Yes: the 2011 Welsh Referendum

Pam fod Cymru wedi dweud IE mor glir yn y refferendwm fis Mawrth diwethaf? Dyma gwestiwn a fydd yn cael ei ateb mewn dau Seminar Brecwast sydd yn cael eu trefnu’r wythnos hon – yng Nghaerdydd fore Mercher, yr 22ain o Fehefin, ac yn Aberystwyth fore Gwener, y 24ain o Fehefin.

Yn y seminarau hyn, bydd yr Athro Roger Scully o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno, am y tro cyntaf, ddata a gasglwyd yn Astudiaeth Refferendwm Cymru 2011.

Cynhelir y seminarau yn Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd ac yn Adeilad Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth a chânt eu trefnu gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Cynhaliwyd Astudiaeth Refferendwm Cymru 2011 gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, mewn cydweithrediad â’r cwmni polio YouGov, a gyda chefnogaeth gyllidol gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Deyrnas Gyfunol

Cafodd sampl gynrychioliadol o etholwyr Cymru, tua 3000 o ymatebwyr, eu cyfweld ar y rhyngrwyd yn ystod pedair wythnos ymgyrch y Refferendwm, a’r rhan fwyaf ohonynt eu cyfweld eto yn syth wedi’r bleidlais.

Bydd yr Athro Scully a’r Athro Wyn Jones, dau o ddadansoddwyr etholiadol amlycaf Cymru, yn tynnu ar dystiolaeth yr Astudiaeth i drafod nifer o gwestiynau penodol, megis:

•        Pwy bleidleisiodd yn y Refferendwm, a phwy na wnaeth? Pam fod y nifer a bleidleisiodd (35.6%) mor isel?

•        Pa fath o bobl bleidleisiodd Ie a Na? A oedd yna bleidleiswyr Ie a Na ‘nodweddiadol’? A yw canlyniad y refferendwm yn dangos fod Cymru’n fwy unedig ynglŷn â’r modd y dylid llywodraethu’r wlad?

•        Pam y dewisodd pobl bleidleisio fel y gwnaethant? Ac os iddynt bleidleisio Ie, Na, neu beidio â phleidleisio o gwbl, beth oedd y prif ffactorau a ddylanwadodd ar eu penderfyniad? A oedd pobl yn pleidleisio er datgan eu hunaniaethau cenedlaethol? A oeddent yn dymuno rhoi barn ar ddegawd cyntaf datganoli? Neu ai ffactorau eraill oedd yn dylanwadu ar eu penderfyniad?

•        Pa wahaniaeth wnaeth yr ymgyrchoedd? Pa ddadleuon oedd yn taro tant gyda’r etholwyr? Neu a oedd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn hollol ddi-hid am yr ymgyrch?

Ymysg prif ddarganfyddiadau’r astudiaeth a drafodir yn y seminarau fydd y canlynol:

•        Er bod y nifer a bleidleisiodd yn y refferendwm yn isel, nid oedd yn gogwyddo tuag at grwpiau cymdeithasol penodol – heblaw am y ffaith fod y nifer o bleidleiswyr ifainc yn brinnach o lawer na’r pleidleiswyr hŷn, fel ag sydd bellach yn nodweddiadol mewn democratiaethau gorllewinol.

•        Ychydig o dystiolaeth a geir o bleidlais ‘Na’ gudd na lwyddodd yr ymgyrch Na i’w cyrraedd. Ymysg y rhai a ystyriodd o ddifri bleidleisio yn y refferendwm ac yna aros adre ar ddiwrnod y bleidlais, roedd y tuedd tuag at y bleidlais Ie a’r bleidlais Na yn debyg iawn i’r canlyniadau terfynol.

•       Ychydig iawn o wahaniaeth a wnaeth cyfnod yr ymgyrch i’r dewis pleidleisio a welwyd yn y refferendwm; ac ni wnaeth fawr o wahaniaeth i farn y cyhoedd tuag at ddatganoli. Roedd hyn i raddau helaeth gan i’r ddwy ochr gael tipyn o anhawster cyfathrebu â’r etholwyr yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Nododd llai nag un mewn deg o bob ymatebwr i unrhyw un gysylltu â hwy mewn unrhyw ffordd am y refferendwm; roedd llai na chwarter yr ymatebwyr yn dweud nad oeddent wedi erbyn gwybodaeth ddigonol am y materion wrth wraidd y refferendwm; ac roedd bron i 40% yn dweud fod yr ymgyrch Ie wedi bod yn hollol anweledig yn y cyfnod cyn y bleidlais, a mwy na 60% yn dweud yr un peth am True Wales, y prif grŵp oedd yn ymgyrchu dros bleidlais Na.

•        Cafodd y prif bleidiau broblemau cyfathrebu eu union safle ar y refferendwm gyda’r etholwyr. Plaid Cymru oedd yr unig blaid yr oedd mwyafrif clir o bleidleiswyr wedi canfod eu safle ar y refferendwm yn gywir, a’r unig blaid yr oedd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn ei gweld yn unedig ar y pwnc.

•        Ychydig iawn o wahaniaethau oedd yng nghefndir cymdeithasol pleidleiswyr Ie a Na, oni bai hunaniaeth genedlaethol. Roedd y rheiny â hunaniaeth fwy Cymreig yn fwy parod i bleidleisio Ie, tra bod mwy o’r rhai â hunaniaeth fwy Prydeinig yn pleidleisio Na.

•        Y ddau ffactor amlycaf o ran dylanwadu ar ddewis pleidleisio yn y refferendwm oedd agweddau sylfaenol unigolion tuag at y modd y llywodraethir Cymru a’u canfyddiad am berfformiad Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd yn arwain at y refferendwm. Ychydig iawn o bleidleiswyr oedd yn teimlo fod datganoli wedi gwella’r economi a gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol ond, yn ffodus i’r ymgyrch Ie, roedd llai fyth yn credu fod datganoli wedi gwaethygu pethau.

Wrth drafod y darganfyddiadau, nododd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, fod yna “lawer yn anghywir gyda refferendwm fis Mawrth. Ond mae’r astudiaeth yn cynnig o leiaf ddwy neges gadarnhaol. Er bod y nifer a bleidleisiodd yn isel, nid oedd y bleidlais wedi’i lleoli ymysg grwpiau cymdeithasol penodol; yn yr ystyr hwnnw, nid oedd y refferendwm yn creu rhaniadau cymdeithasol. Yn ail, y ffactor amlycaf a ddylanwadodd ar benderfyniadau pobl ynglŷn â sut i bleidleisio yn y refferendwm oedd eu hagweddau sylfaenol tuag at y modd y dylai Cymru gael ei llywodraethu. Yn aml iawn, caiff refferenda eu herwgipio a’u troi’n ddadleuon ar bethau sy’n hollol wahanol i’r hyn a geir ar y papur pleidleisio. Ni ddigwyddodd hyn yng Nghymru eleni. Ac yn yr ystyr hwnnw, bu’r refferendwm yn llwyddiannus.”

Ychwanegodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, “Yr hyn sydd fwyaf rhyfeddol am y data yw mor debyg yr ymddengys agweddau’r rhai na bleidleisiodd i’r rhai a bleidleisiodd. Ni welsom unrhyw gefnogaeth i honiadau rhai o’r ymgyrchwyr Na eu bod yn cynrychioli ‘mwyafrif tawel’ yng Nghymru. Nid oedd hyn yn wir! Efallai mai dyna’r peth pwysicaf am refferendwm 2011: wedi gorchfygiad trychinebus 1979, cymeradwyaeth trwch blewyn 1997, mae barn y mwyafrif yng Nghymru – yn dawel neu fel arall – yn amlwg bellach o blaid datganoli. Rhaid ffarwelio nawr ag unrhyw ddadl arall”.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru

Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol wedi’i sefydlu o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, adran sydd yn cael ei chydnabod gyda’r gorau yn ei maes o ran ymchwil a safon ei dysgu. Nod Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yw hybu astudiaeth a thrafodaeth academaidd ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Mae gwaith Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn cwmpasu nid yn unig ddatblygiadau gwleidyddol oddi mewn i Gymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol Cymru â gweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop a'r byd.

Canolfan Llywodraethiant Cymru

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ganolfan ymchwil a gefnogir gan Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd, gan dynnu ynghyd ysgolheigion o adrannau ar draws y Brifysgol. Mae staff y Ganolfan yn cwblhau ymchwil blaengar ar bob agwedd o’r gyfraith a llywodraethiant yng Nghymru, yn ogystal â gwaith ymchwil ar lywodraethiant datganoledig yng nghyd-destun y DG ac Ewrop. Mae’r ganolfan hefyd yn hwyluso a hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus ynglŷn â datblygiadau allweddol llywodraethiant Cymru.

AU15011