Wythnos y Prifysgolion
Wythnos y Prifysgolion 2011
10 Mehefin 2011
Cipolwg ar fywyd Prifysgol Aberystwyth Wythnos y Prifysgolion 13 – 19 Mehefin 2011
Nod Wythnos y Prifysgolion â gynhelir o 13 – 19 Mehefin, yw i ddangos y modd y mae prifysgolion yn fanteisiol i bawb, boed hwy wedi bod i brifysgol ai peidio. Bydd Prifysgol Aberystwyth yn mynegi hyn drwy gynnig cipolwg o’i gwaith a’i digwyddiadau dydd i ddydd.
Yn ystod yr wythnos, bydd sefydliadau addysg uwch ar draws y wlad yn cymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiagau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol; wedi eu cynllunio er mwyn arddangos gwaith hynod prifysgolion all newid bywydau.
Bydd Wythnos y Prifysgolion 2011 yn canolbwyntio ar bump thema allweddol gan gynnwys gwerth prifysgolion i’w cymunedau, i fusnesau lleol a sut gall cymdeithas y DU elwa o waith ymchwil sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn 20 mlynedd.
Adlewyrchir y themâu hyn yn nigwyddiadau’r wythnos yn Aberystwyth gan gynnwys:
- Wythnos Dechrau Busnes – cyfres o weithdai yn rhoi cyfle gwych i unigolion gyfarfod ag entrepreneuriaid o'r un meddylfryd a datblygu rhwydwaith cymorth i'w ddefnyddio wrth fwrw ymlaen â'u syniad busnes (wythnos 6ed Meh)
- Yr Agenda Oedran – lansio Older People & Ageing Research & Development Network (OPAN Cymru) ym Mhrifysgol Aberystwyth; yn canolbwyntio ar dyfu’n hen yn y 21ain ganrif.
- Blwyddyn Mewn Uned Greadigol – cystadleuaeth sy’n agored i syniadau am fenter gan fusnesau neu gymunedau.
- Sustainable Expansion of the Applied Coastal and Marine Sectors (SEACAMS) – lansio partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe (16eg Meh)
Nododd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Noel Lloyd: “Yn ystod Wythnos y Prifysgolion, rydym yn dathlu yr ystod eang o gyfraniadau a wneir gan brifysgolion i sawl agwedd o fywyd. Maent yn parhau i gael effaith gref yn economaidd, yn ddiwyllianol ac yn gymdeithasol. Rydym yn bwysig ar lefel leol a rhanbarthol ac mae gennym ran bwysig i’w chwarae ym mywyd cenedlaethol Cymru. Mae ein cyfraniadau i ddatblygiad polisi yn arbennig o werthfawr.”
Dywedodd Nicola Dandridge, Prif Weithredwr Universities UK, sy’n cydlynu’r wythnos: “Y syniad y tu ôl i’r ymgyrch hon yw i rannu rhai o’r streuon anhygoel sy’n dangos pam bod prifysgolion yn bwysig i’r DU a sut maent o fudd i bawb ledled y wlad. Rydym yn falch iawn o’r ymateb i beilot Wythnos y Prifysgolion y llynedd ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant hwnnw eleni.”
Ychwanegodd Noel Lloyd: “Mae prifysgolion hefyd yn sefydliadau rhyngwladol gyda myfyrwyr o nifer o wahanol wledydd sy’n cyfoethogi ein cymdeithas ac mae’n rhaid i ni gael ein adnabod yn rhyngwladol fel sefydliadau sy’n cyflawni ein cyfrifoldebau yn lleol a chenedlaethol. Caiff cynydd mewn nifer o feysydd cymdeithasol-bwysig ac yn yr adfywiad economaidd eu llywio gan waith prifysgolion ac effaith sylfaenol eu myfyrwyr.”
Mae Wythnos y Prifysgolion 2011 yn dilyn peilot llwyddiannus 2010 ble cafwyd 110 prifysgol, 30 sefydliad mawr a 35 o enwogion yn cymryd rhan ac yn arddangos gwaith y sector addysg uwch.
Nododd Alex Jones, cyflwynydd ar The One Show, BBC: “Mae gen i atgofion melys o fod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi ei lleoli o fewn ardal ddaearyddol reit fach, mae'n anochel bod y ffiniau rhwng y dref a'r brifysgol yn aneglur a dwi'n credu mai dyma sy'n ei gwneud mor arbennig. Heblaw am y manteision academaidd amlwg sydd i'w cael o fynychu sefydliad o'r fath, mae bywyd prifysgol yn amhrisiadwy wrth eich helpu i fod yn fwy annibynol ac i ddeall pwy ydych chi fel person. Yn sicr, rhoddodd sylfaen dda i mi ar gyfer fy ngyrfa a'm bywyd yn gyffredinol.”
Eleni, mae nifer o enwogion cyfarwydd megis Patrick Stewart, Philip Treacy a’r Athro Brian Cox yn helpu gyda’r ymgyrch ac ymddengys y bydd hi’n wythnos lwyddiannus iawn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch digwyddiadau Aberystwyth ac o amgylch y DU, ewch i www.universitiesweek.org.uk neu dilynwch yr ymgyrch ar www.facebook.com/ukuniversities
Cydlynir yr ymgyrch gan Universities UK, y corff sy’n cynrychioli prifysgolion y DU.
AU13911