Canolfan Llên Menywod a Diwylliant Llenyddol
Dr Tiffany Atkinson (Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan), Dr Rebecca Davies, Dr Sarah Prescott (Cyfarwyddwr y Ganolfan), Yr Athro Margaret J.M. Ezell o Brifysgol Texas A&M, Yr Athro Diane Watt (Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
01 Mehefin 2011
Ddydd Mawrth 31ain Mai, bu aelodau Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth a’u gwesteion yn dathlu lawnsio’u Canolfan newydd i Lên Menywod a Diwylliant Llenyddol.
Mae’r Ganolfan, sy’n weithredol ers 2010, yn tynnu ar yr ymchwil gynhwysfawr i lên menywod a wneir ar hyn o bryd yn yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Yn gyfangwbl, mae na ddeg aelod o staff a phedwar ar ddeg o uwchraddedigion yn yr adran yn ymchwilio yn y maes hwn.
Mae staff yn cyhoeddi’n eang ar lên menywod o’r canol oesoedd i’r dydd heddiw ac mae’r adran hefyd yn ymfalchïo fod yn eu plith nifer o fenywod sy’n awduron cyhoeddedig, megis Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, Dr Tiffany Atkinson.
Yn y dyfodol mae’r ganolfan yn bwriadu cynnal darlith flynyddol i’w thraddodi gan ffigwr amlwg yn y maes yn ogystal â chynhadledd fawr ryngwladol bob tair blynedd. Ar ben hyn, bydd yn gyfrifol am gyfres o weithdai a chynadleddau a drefnir gan ac ar gyfer uwchraddedigion.
Ar ôl y cyflwyniadau cychwynnol, dechreuodd yr achlysur ddydd Mawrth â Darlith Flynyddol Agoriadol y Ganolfan, sef “Seventeenth-Century Female Author Portraits, Or, The Company She Keeps”, gan Yr Athro Margaret J. M. Ezell, Athro Nodedig a deiliad Cadair Sara & John Lindsey yn y Celfyddydau Rhyddfrydol ym Mhrifysgol Tecsas A& M.
Roedd rhaglen y prynhawn yn cynnwys darlleniadau barddoniaeth gan Gwyneth Lewis ac Alicia Stubbersfield, darlith 50 rooms of their own: Chawton House Library and Jane Austen in 2011 gan Dr Gillian Dow o Lyfrgell Chawton House ym Mhrifysgol Southampton a chyflwyniad am y cynlluniau i gydweithio yn y dyfodol rhwng Llyfrgell Chawton House a’r Ganolfan gan Stephen Lawrence (Prif Weithredwr, Llyfrgell Chawton House) a Dr Rebecca Davies (Prifysgol Aberystwyth).
Daeth yr achlysur i ben â chyflwyniad lle bu Gwasg Honno, cyhoeddwyr llên menywod Gymreig a Chymraeg, yn rhoi casgliad o lyfrau i’r Ganolfan i nodi’r lansio.
AU12711