Rasio beics

Rasio beics ar y Prom.

Rasio beics ar y Prom.

25 Mai 2011

Ddydd Iau 26ain Mai daw cyffro rasio beics proffesiynol i ganol Aberystwyth a’r cyfle i weld nifer o sêr Byd ac Olympaidd yn rasio.

Trefnwyd Cyfres Taith Halfords ITV4 gan Bartneriaeth Feicio Aberystwyth sydd yn cynnwys y Brifysgol, Cyngor Tref Aberystwyth, Clwb Beicio Ystwyth, Cyngor Sir Ceredigion a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.

Yn cymryd ei le ochr yn ochr â rhai o enwau mawr y byd Olympaidd megis Ed Clancy, Andrew Tennant, Rob Hayles a Steven Burke fydd Gruff Lewis o Benrhyn-coch.

Ddydd Sul cafod Gruff,  aelod o dîm proffesiynol Team UK Youth sydd yn cael ei arwain gan gyn-enillydd ras enwog Paris-Roubaix, Magnus Backsteadt, ei goroni’n Bencampwr Rasio Ffordd Cymru.

Yn ogystal â rasio yn lled-broffesiynol, mae Gruff yn gweithio yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol fel cynorthwyydd hamdden rhan amser a hyfforddwr campfa a dosbarthiadau sbin.

Bydd rhaglen y diwrnod yn dechrau am 12 ganol dydd gyda gweithgareddau ar y promenade. Bydd y rasio yn dechrau am 2 y prynhawn gyda rasys ar gyfer ysgolion, busnesau lleol ac ieuenctid, ac yna’r brif ras yn dechrau am 7 yr hwyr ac yn para am 1 awr a 5 lap.

Bydd y beicwyr yn rasio ar hyd cylch caeedig un cilomedr o hyd, fydd yn mynd â nhw ar hyd y promenâd, heibio’r Hen Goleg a’r castell, i fyny drwy’r hen dref tuag at Gloc y Dre ac i lawr Heol y Wig (Pier Street). Yr Hen Goleg fydd lleoliad gweithgareddau croeso corfforaethol. 

Fel rhan o’r digwyddiad bydd y Promenâd yn cael ei drawsnewid er mwyn creu ychydig o awyrgylch y Tour De France sydd yn enwog am ei charafán hysbysrwydd. Bydd stondinau ac arddangosfeydd yn sicr o greu awyrgylch wych gan gynnwys Cegin Gwir Flas a fydd yn cynnig cynnyrch bwyd cwmnïoedd lleol  a  Hybu Cig Cymru a fydd yn hyrwyddo Cig Oen ac Eidion Cymreig.

Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae Cyfres Taith Halfords yn gystadleuaeth i dimoedd sydd yn cynnwys 10 o brif dimoedd rasio proffesiynol gorau’r Deyrnas Gyfunol. Mae’r timau yn sgorio pwyntiau am bob un o’u pum beiciwr sydd yn y deg uchaf ym mhob rownd. Yn ogystal ag Aberystwyth mae’r gyfres yn ymweld â Durham, Peterborough, Stoke-on-Trent and Canary Wharf.

Bydd y ras yn cael ei dangos ar ITV4 nos Wener 27ain Mai am 8 p.m.

AU11811