Herio Mythau Gwleidyddol

Yr Athro Roger Scully

Yr Athro Roger Scully

24 Mai 2011

A yw’n wir meddwl am y Cymry yn radical yn wleidyddol? Dyma un o‘r cwestiynau fydd yn cael eu trafod gan un o ddadansoddwyr gwleidyddol amlycaf Cymru nos Iau nesaf.

 

Yn ei Ddarlith Sefydlu dan y teitl, Democracy in Contemporary Wales, darlith a gaiff ei thraddodi yn adran Wleidyddiaeth Ryngwladol fyd-enwog Prifysgol Aberystwyth, bydd yr Athro Roger Scully yn dadlau fod angen astudiaeth fwy difrifol a systematig o wleidyddiaeth yng Nghymru.

Bydd yn dadlau fod ar ‘fywyd gwleidyddol y wlad hon fwy o wir angen sylw cyson a beirniadol na’r rhan fwyaf o leoedd. Oherwydd diffyg corff o ddadansoddiadau ysgolheigaidd difrifol, caiff gwleidyddiaeth Cymru ei nodweddu gan fythau ac ystrydebau na chawsant erioed eu hymchwilio’n iawn’.
Ymysg y mythau hyn, yn ôl yr Athro Scully, mae’r syniad o ‘draddodiad radical’. Er fod y syniad fod y Cymry, yn y gorffennol a’r presennol, yn fwy gwleidyddol radical na’r Saeson yn holl bresennol o fewn disgwrs gwleidyddol, bydd yr Athro Scully yn dadlau fod y dystiolaeth dros y syniad hwn ‘dipyn yn wannach a mwy cyfyngedig nag yr awgryma’r disgwrs’, gan herio un o ‘nodweddion diffiniol hunanddelwedd gwleidyddol Cymru’.

Yn y ddarlith, bydd yr Athro Scully hefyd yn trafod y pwyntiau canlynol:

 -      Nad yw’r gefnogaeth gynyddol i ddatganoli yng Nghymru dros y degawd ddiwethaf yn arwydd o dwf cenedlaetholdeb o fewn gwleidyddiaeth Cymru; yn wahanol i’r Alban, dengys dadansoddiad o’r farn gyhoeddus ynglŷn â’r modd y llywodraethir Cymru mor llwyddiannus yw ‘datganoli unoliaethol’.

-      Tra bod pobl Cymru yn rhoi mwy o gefnogaeth i’r lefel Gymreig o lywodraeth mewn blynyddoedd diweddar, nid oes unrhyw arwyddion fod hyn yn cynyddu maint na dwyster eu huniaethiad â Chymru. Ni fu chwaith unrhyw leihad yng ngrym hunaniaeth Brydeinig ymysg pobl Cymru ers sefydlu datganoli.

 -      Fod dominyddiaeth barhaus y Blaid Lafur yng Nghymru wedi cynhyrchu ffurf ddominyddol unochrog un-bleidiol o wleidyddiaeth ddemocrataidd sydd yn sylfaenol afiach.

 Daw’r Athro Roger Scully yn wreiddiol o Luton yn Lloegr. Astudiodd ym Mhrifysgolion Lancaster ac Ohio, a dysgu ym Mhrifysgol Brunel, cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth yn 2000. Mae’n un o Academyddion Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Ef yw Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 2009. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n sylwebydd cyson ar y cyfryngau ar nifer o agweddau ar wleidyddiaeth Cymru.

Ymysg ei waith cyhoeddedig mae Becoming Europeans? Attitudes, Behaviour and Socialisation in the European Parliament (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2005) a Representing Europe’s Citizens? Electoral Institutions and the Failure of Parliamentary Representation in Europe (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2007; ar y cyd â David M. Farrell).

Ef hefyd yw cydawdur (gyda Richard Wyn Jones) y gyfrol sydd ar fin ymddangos ar Refferendwm Cymru Mawrth 2011: Wales Says Yes: the 2011 Welsh Referendum (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012).

Yr Athro Scully yw Cyd-Gyfarwyddwr Astudiaeth Refferendwm Cymru 2011 ac Astudiaeth Etholiad Cymru 2011, dwy astudiaeth sy’n cael eu cyllido gan grantiau ymchwil Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r Darlithoedd Sefydlu yn gyfres o ddarlithoedd a gyflwynir gan Athrawon Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd darlith yr Athro Scully yn tynnu ar ei waith ymchwil ar wleidyddiaeth Cymru dros y degawd ddiwethaf yma.

Croeso i bawb fynychu’r ddarlith gyhoeddus hon. Caiff ei chynnal yn Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth am 6 o’r gloch nos Iau, y 26ain o Fai.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru

Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Gan adlewyrchu ei gartref o fewn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol hynaf y byd, mae gwaith y Sefydliad yn cynnwys astudiaeth o’r prosesau gwleidyddol o fewn Cymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol ac economaidd-wleidyddol Cymru â Phrydain, Ewrop, a gweddill y byd.

AU12311