Hyfforddi ar gyfer dyfodol ffermio

Hyfforddiant amaethyddol

Hyfforddiant amaethyddol

23 Mai 2011

Bydd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn arwain rhaglen hyfforddi newydd er mwyn creu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr a fydd yn cefnogi miloedd o ffermwyr trwy’r Deyrnas Unedig.

Bydd IBERS yn helpu i hyfforddi cannoedd o staff proffesiynol a thechnegol er mwyn datblygu tîmau o arbenigwyr a fydd ar gael i gynghori ffermwyr a’r diwydiant bwyd ynglŷn â mabwysiadu’r dulliau pori diweddaraf.

Bydd gweithdai ac e-ddysgu’n cael eu defnyddio i dargedu rheolwyr fferm, staff technegol cyflenwyr amaethyddol, milfeddygon a chynghorwyr eraill er mwyn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth dechnegol newydd yn cyrraedd y buarth.

Mae partneriaeth IBERS yn un o bedair sydd wedi eu cyhoeddi heddiw gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) – rhyngddyn nhw, mae’r pedair werth cyfanswm o £12 miliwn.

Bydd IBERS yn arwain nifer o bartneriaid diwydiannol yn ogystal ag arbenigwyr o Brifysgol Bangor a Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol yng Nghaergrawnt.

Meddai’r Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Ymchwil a Menter yn IBERS:

“Mae’r sector amaethyddol yn esblygu’n gyson ac mae’r bartneriaeth hon yn cynnwys arbenigwyr a fydd yn gallu mynd i’r afael â’r diffyg mewn arbenigedd lefel-uchel trwy drosglwyddo gwybodaeth arbenigol  wyddonol a thechnegol i ffermwyr, gan annog arloesi.”

Eu gwaith fydd hyfforddi arbenigwyr yn y sgiliau uchel sydd eu hangen i wella ffermio tir glas yn y Deyrnas Unedig, gyda’r nod o wneud ffermwyr cig eidion, defaid a llaeth yn fwy effeithiol, gan effeithio llai ar yr amgylchedd yr un pryd.

Ers mwy na 90 mlynedd mae IBERS a’i ragflaenwyr wedi cael eu cydnabod yn arweinwyr rhyngwladol ym maes ffermio tir glas ac mae’r gwyddonwyr yno bellach yn defnyddio’r wybodaeth enynnol  a biolegol ddiweddaraf i ddatblygu dulliau a thechnegau newydd.

Mae IBERS hefyd yn arbenigo ar drosglwyddo’r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf i ffermwyr yn y maes, gan eu helpu i wella’u dulliau rheoli. Bydd y bartneriaeth newydd yn datblygu’r gwaith yna ymhellach.

Bydd y pedair rhaglen newydd yn helpu tua 100 o unigolion i ennill Doethuriaethau proffesiynol a miloedd yn rhagor i astudio at lefel gradd Meistr.

Mae yna “angen clir i helpu’r sector amaeth a bwyd i ymwneud â’r gwaith ymchwil diweddaraf,” meddai’r Athro Douglas Kell, Prif Weithredwr y BBSRC. “Bydd hyn yn helpu i gwrdd â her sicrwydd bwyd yn y dyfodol, trwy gryfhau sylfaen sgiliau’r Deyrnas Unedig mewn meysydd fel gwyddoniaeth filfeddygol, lles anifeiliaid, gwyddor y pridd, bridio planhigion, gwyddor bwyd a chynhyrchu bwyd.”

Mae IBERS ymhlith yr arweinwyr byd eang yn y rhan fwyaf o’r meysydd hyn.

AU12111