Yr Antiques Roadshow yn Ymweld â Phrifysgol Aberystwyth
Fiona Bruce, Cyflwynydd Antiques Roadshow
23 Mai 2011
Ddydd Iau, 9fed Mehefin, 2011 bydd rhaglen nos Sul fytholwyrdd BBC 1, sef ANTIQUES ROADSHOW, yn ffilmio ar gyfer ei 34ain cyfres yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd y drysau’n agor am 9.30a.m., yn cau am 4.30p.m. a bydd mynediad i’r sioe yn rhad ac am ddim.
Wrth law bydd rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Prydain ar hen bethau, creiriau, trugareddau a darnau celf cain i roi cyngor ac amcanu gwerth eitemau’r ymwelwyr.
Fe’ch gwahoddir i fynd ar sgowt i’r atig a dod â thrysorau teuluol, ac eitemau diddorol sydd o werth i chi er mwyn i’r arbenigwyr gymryd golwg arnyn nhw.
Cyflwynir y sioe gan Fiona Bruce, a fydd yno hefyd ac yn ffilmio storïau cefndirol am Aberystwyth.
Os oes gan bobl gelfi neu eitemau eraill mawr, gallant anfon manylion a ffotograff ohonynt i: ANTIQUES ROADSHOW, BBC, Whiteladies Road, Bristol BS8 2LR neu e-bostio’r manylion i: antiques.roadshow@bbc.co.uk.
Yn ôl golygydd y gyfres, Simon Shaw: “Mae’r tîm yn edrych ymlaen i ddod i Aberystwyth. Mae hi wastad yn gyffrous gweld beth ddaw i’r fei ar y dydd. Rydyn ni’n gweld cymaint â 1500 i 2000 o ymwelwyr ar y dydd ond er gwaetha’r niferoedd hyn fe gaiff pawb gyfle i weld arbenigwr.”
AU12211