Cyfraniadau graddedigion o 2012-13 ymlaen
Yr Hen Goleg
09 Mai 2011
Cyfarfu Cyngor Prifysgol Aberystwyth y bore yma i ystyried pa lefel o gyfraniad graddedigion a fyddai’n briodol, yn ogystal â manylion y cynllun ffioedd a gyflwynir i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a fydd yn disgrifio sut y bydd y refeniw yn cael ei ddosbarthu yn unol â’r canllawiau a gyhoeddir gan y Cyngor Cyllido.
Roedd angen i’r Cyngor sicrhau bod y refeniw yn y dyfodol yn ein digolledu am unrhyw doriadau mewn cefnogaeth gan y llywodraeth, a’i fod yn ddigonol i fuddsoddi mewn cyfalaf ac adnoddau dysgu er mwyn cynnal ein safle cystadleuol, a’i fod yn ein diogelu rhag effeithiau disgwyliedig chwyddiant, ac yn enwedig ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad a’r Cyngor Cyllido.
Mae Aberystwyth yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel ac mae ganddi hanes ardderchog o ran boddhad ei myfyrwyr, ac mae’n rhaid diogelu’r elfennau hyn, a’u datblygu ymhellach. Yn bennaf oll, rhaid inni sicrhau bod Prifysgol Aberystwyth yn gynaliadwy ac yn gystadleuol yn rhyngwladol.
Mae gofynion y Cyngor Cyllido yn pennu bod o leiaf 30% o’r refeniw uwchben £4000 yn cael ei ddefnyddio i hybu amcanion ehangu cyfranogiad, gwella’r profiad i fyfyrwyr, a chyfrannu at economi Cymru.
Rydym yn cydnabod pryderon diffuant y myfyrwyr ynghylch y cyfeiriad y mae polisi yn mynd iddo. Mae’r Brifysgol wedi ceisio rhoi ystyriaeth i safbwyntiau cynrychiolwyr y myfyrwyr, ac fe fyddant yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu a gweithredu penderfyniad y Cyngor.
Daeth y Cyngor i’r casgliad bod angen gosod y ffi ar £9000 y flwyddyn, ac fe gadarnhaodd y dystiolaeth a fydd yn awr yn cael ei rhoi ar ffurf fanwl, gyda thargedau penodol, i’w chyflwyno yn y cynllun ffioedd erbyn 31 Mai.
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae Addysg Uwch yn mynd drwy gyfnod o newid cyflym ac ansicrwydd; bydd y model cyllido o 2012/13 yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi bod o’r blaen.”
“Gyda’r cyhoeddiad hwn heddiw rydym yn tanlinelli ein ymrwymiad i enhangu mynediad i fyfyrwyr, i gyfrannu at gyfianwder cymdeithasol ac i gynnig pecyn cymorth fydd yn sicrhau bod myfyrwyr sydd yn gwneud cais i astudio yn Aberystwyth yn derbyn cefnogaeth ar bob lefel o’u hastudiaethau, nes eu bod yn graddio.”
“Ein nod yw cynhyrchu graddedigion sydd yn adlewyrchu anghenion cyflogwyr, cynnig adnoddau dysgu, addysgu a phreswyl rhagorol iddynt, a’u bod yn cael eu dysgu gan staff sydd yn ymwneud ag ymchwil o safon byd a thechnoleg o’r radd flaenaf. Mae angen i ni sicrhau bod myfyrwyr sydd yn dod i Aberystwyth yn mwynhau darpariaeth o’r radd uchaf.”
AU10311