Prix Honoré Chavée
Yr Athro David Trotter
18 Ebrill 2011
Dyfarnwyd y wobr Prix Honoré Chavée gan yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis i’r Geiriadur Eingl-Normaneg (GEN) sydd wedi bod dan gyfarwyddiaeth yr Athro David Trotter o Adran Ieithoedd Ewropeaidd, Prifysgol Aberystwyth, ers 2001.
Daeth y GEN i fodolaeth pan gyfarfu pwyllgor geirfa yn Rhydychen yn 1947 i drafod llunio geiriadur (neu casgliad o eiriau ar y pryd) Eingl-Normaneg, ffurf o Ffrangeg oedd yn cael ei defnyddio ym Mhrydain yn dilyn concwest y Normaniaid yn 1066.
Bu Eingl-Normaneg mewn bodolaeth, ar lafar i ddechrau ac yna yn gynyddol yn ysgrifenedig, o 1066 tan ganol y bymthegfed ganrif, gan barhau fel iaith gyfreithiol tu hwn i hynny a gadael ei hol ar y Saesneg, yn arbennig ar yr eirfa.
Ar ddechrau’r daith dros drigain mlynedd yn ôl, nod y geiriadur oedd cofnodi’r iaith a thrwy hynny ddechrau ymgais i gofnodi ei defnydd ym mhob agwedd o fywyd.
Ar y dechrau roedd y geiriadur yn “llenyddol” iawn o ran cynnwys. Yng nghanol yr 1980au, o dan olygyddiaeth yr Athro William Rothwell, a oedd wedi ymddeol o Fanceinion, dechreuwyd cynnwys nifer o eiriau nad oedd yn llenyddol ac o ffynonellau eraill megis dogfennau cyfreithiol, gweinyddol, masnachol a phreifat.
Wrth wneud y newidiadau yma daeth yn amlwg y byddai angen argraffiad newydd a dechreuwyd ar y gwaith yn 1989, cyn cyhoeddi rhan olaf yr argraffiad cyntaf.
Wedi bron i ddeng mlynedd o waith - cyn cyfnod Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) pan nad oedd arian ar gael ar gyfer staff ymchwil yn y dyniaethau, roedd rhan gyntaf o’r argraffiad newydd, llythrennau A i E a oedd dair gwaith maint ei ragflaenydd, bron yn gyflawn. Wedi rhywfaint of anawsterau cyhoeddi, fe ymddangosodd yn 2005.
Efallai o bwys mwy, ac mae gwobr yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres yn cydnabod hyn yn benodol, roedd y prosiect, a oedd erbyn hyn yn derbyn cyllid gan Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRB) a’r AHRC, wedi gosod geiriadur electronaidd ar-lein ynghyd â bron i 80 darn o destun wedi eu digideiddio a nifer o erthyglau ysgolheigaidd wedi eu cyhoeddi o’r newydd (www.anglo-norman.net).
Dechreuodd hyn fel prosiect ar y cyd rhwng Aberystwyth ac Abertawe gyda’r Athro Andrew Rothwell yn Abertawe. Ers 2003 mae’r GEN wedi gosod argraffiad newydd o’r llythrenau F i M (sydd ar fin ymddangos) ar lein. Mae’r Prix Chavée yn arbennig ar gyfer fersiwn ar-lein y GEN a gwefan, gwaith sydd wedi ei wneud gan yr Athro Michael Beddow, ymgynghorydd technegol y GEN a chyn Athro Almaeneg yn Leeds.
Mi fydd defnyddwyr geiriaduron ar lein megis yr Oxford English Dictionary (www.oed.com) yn ymwybodol o’u llu manteision: maent yn chwiliadwy mewn amryw ffyrdd, maent yn hawdd i’w diweddaru, ac yn achos y GEN, does dim rhaid talu am ei ddefnyddio. Y cyfan sydd ei angen yw mynediad i’r rhyngrwyd o ba bynnag ran o’r byd.
Yn ôl yr Athro Trotter bu Eingl-Normaneg yn destun difyrrwch os nad gwawd gan sefydliad Ffrenig a oedd yn ei hystyried fel tafodiaith rannol-lythrennog o wlad arall, ond a oedd hefyd yn argyhoeddedig, yng ngeiriau Clemenceau, taw Ffrangeg wedi ei hynganu yn wael oedd Saesneg oherwydd dylanwad y naill ar y llall.
“Mae dyfarnu’r wobr bwysig hon i’r GEN gan un o sefydliadau blaenllaw Ffrainc yn awgrymu bod y dyddiau yma tu cefn i ni a bod yr Eingl-Normaneg bellach yn cael ei chydnabod am yr hyn yr oedd hi: iaith busnes a diplomyddiaeth ryngwladol o Sbaen i’r Alban ac o’r Eidal i’r Iwerddon, a’r ysbrydoliaeth ar gyfer datblygiad llenyddiaeth frodorol gan mai hi oedd yr ail iaith bwysicaf o ran diwylliant (ar ôl Lladin) yng ngorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol,” dywedodd.
“Mae’r GEN wedi bod yn rhan o adferiad yr Eingl-Normaneg, ac mae bellach yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o eiriaduron hanesyddol sydd, gyda’i gilydd, yn caniatáu i ni ailfapio defnydd iaith yn y gwledydd lle'r oedd ieithoedd Romáwns yn cael eu siarad, ac ail ddadansoddiad (yn achos y GEN) o gyfraniad yr Eingl-Normaneg i’r Saesneg a hefyd i ieithoedd Celtaidd Ynysoedd Prydain,” ychwanegodd.
Mae dimensiwn rhyngwladol y gwaith yn ymestyn i’r bobl sydd yn ymwneud â’r geiriadur: mae iddo olygyddion llawn amser o Wlad Belg a Chanada (Geert De Wilde and Heather Pagan), cynorthwyydd ymchwil hanner amser, Jennifer Gabel, sydd yma drwy brosiect ymchwil ar y cyd gyda’r Dictionnaire Étymologique de l’Ancien Français (DEAF) yn Heidelberg.
Mae cyn aelodau staff golygyddol ac ymchwil wedi dod o Ffrainc (Virginie Derrien) a Rwsia (Natasha Romanova); llynedd bu myfyrwyr PhD o’r Swistir (Larissa Birrer) yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ar y GEN wedi iddi gwblhau ei doethuriaeth yn Zurich.
Mae’r Académie des Inscriptions et Belles-Lettres (www.aibl.fr), a sefydlwyd yn 1663, yn un o gyfres o gyrff sydd gyda’i gilydd yn ffurfio yr Institut de France, a’r mwyaf adnabyddus ohonynt yw’r Académie Française. Sefydlwyd y Prix Chavée er mwyn "cymell astudiaethau ieithyddol ac yn arbennig ymchwil sydd yn ymwneud â’r ieithoedd Romáwns”.
AU9211