Rhewlifoedd mynydd yn dadmer

Blaen Rhewlif San Rafael ym Mhatagonia, un o’r 270 o rewlifoedd yn yr astudiaeth. Mae’r rhewlif hwn wedi encilio tua 8 km ers anterth yr “Oes Iâ Fach” tua 1870 OC.   Llun: Neil Glasser

Blaen Rhewlif San Rafael ym Mhatagonia, un o’r 270 o rewlifoedd yn yr astudiaeth. Mae’r rhewlif hwn wedi encilio tua 8 km ers anterth yr “Oes Iâ Fach” tua 1870 OC. Llun: Neil Glasser

04 Ebrill 2011

Mae rhewlifoedd mynydd sy’n toddi yn cyfrannu i’r cynnydd yn lefel y môr yn gyflymach nag mewn unrhyw gyfnod yn y 350 o flynyddoedd diwethaf. Dyma gasgliad ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw, dydd Sul 3ydd Ebrill 2011, gan dîm o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Stockholm.

Gan ysgrifennu yn y cylchgrawn Nature Geoscience, cynhaliodd y tîm arolwg o 270 o rewlifoedd allfa mwyaf meysydd iâ De a Gogledd Patagonia yn Ne America. 

Aethant ati i fapio newidiadau yn safle’r rhewlifoedd ers “Oes yr Iâ Fechan”; sef y tro diwethaf y buont yn llawer mwy yn y gorffennol agos. 

Cyfrifodd y tîm y cyfaint o iâ gollodd y rhewlifoedd wrth iddynt encilio a theneuo dros y 350 mlynedd diwethaf, gan gymharu’r colledion hyn â chyfraddau’r newid dros y 30 mlynedd diwethaf. 

Cafwyd bod y rhewlifoedd wedi bod yn colli cyfaint ar gyfradd rhwng deg a chan gwaith yn gyflymach yn ystod y 30 mlynedd diwethaf na’r cyfartaledd tymor-hir dros 350 mlynedd.  

Daw’r astudiaeth i’r casgliad bod cyfradd toddi’r rhewlifoedd hyn wedi cynyddu’n sydyn iawn mewn blynyddoedd diweddar, ac felly hefyd eu cyfraniad i’r cynnydd yn lefel byd-eang y môr.

Meddai’r prif awdur, yr Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth “Seiliwyd amcangyfrifon blaenorol o gyfraniad rhewlifoedd mynydd i’r cynnydd yn lefel y môr ar gyfnodau byr iawn o amser. Maent yn cynnwys ond y 30 mlynedd diwethaf mwy neu lai, pan gellir defnyddio delweddau lloeren i gyfrifo cyfraddau’r newid yng nghyfaint y rhewlifoedd.

“Aethom ati mewn modd gwahanol drwy ddefnyddio dull newydd sy’n ein galluogi i edrych ar gyfnodau hirach o amser. Roeddem yn gwybod bod rhewlifoedd yn Ne America lawer mwy yn ystod “Oes yr Iâ Fechan”. Felly aethom ati i fapio maint y rhewlifoedd yn y cyfnod hwnnw a chyfrifo faint o iâ a gollwyd wrth i’r rhewlifoedd encilio a theneuo”.

Fel yr esbonia’r ail awdur, Dr Stephan Harrison o Brifysgol Caerwysg “Mae’r gwaith yn arwyddocaol oherwydd dyma’r tro cyntaf i unrhyw un wneud amcangyfrif uniongyrchol o gyfraniad y rhewlifoedd i’r cynnydd yn lefel y môr ers anterth y Chwyldro Diwydiannol (tua 1750-1850 OC). Mae ein canlyniadau’n dangos bod amcangyfrifon diweddar (1990-2000) o gyfraddau cyfraniad rhewlifoedd i’r cynnydd yn lefel y môr yn uwch o lawer na’r cyfartaledd tymor hir (1650/1750-2010 a 1870-2010)”.

AU7311