‘Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth – Goblygiadau ar gyfer sicrwydd bwyd, dŵr ac ynnu’
Yr Athro Robert Watson
31 Mawrth 2011
Bydd yr Athro Robert Watson, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn traddodi ail ddarlith cyfres Gregynog yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg am 7 yr hwyr ar Ddydd Iau 31 Mawrth.
Pwnc ei ddarlith fydd ‘Climate Change and Biodiversity – Implications for food, water and energy security’.
Mae gyrfa’r Athro Watson wedi esblygu o wyddonydd ymchwil yn Labordy Jet-yriant Sefydliad Technoleg Califfornia, i reolwr rhaglenni Llywodraeth Ffederal UDA yn y Weinyddiaeth Aerofod a Gofod Genedlaethol (NASA), i gynghorydd gwyddonol a pholisi yn Swyddfa Polisi Gwyddoniaeth a Thechnoleg UDA yn y Tŷ Gwyn, i fod yn gynghorydd gwyddonol, rheolwr a phrif wyddonydd ym Manc y Byd, i Gadeirydd Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia, Cyfarwyddwr Cyfeiriad Strategol canolfan Tyndall, a Phrif Gynghorwr Gwyddonol i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU.
Ar y cyd â’i swyddi ffurfiol mae wedi cadeirio, cyd-gadeirio neu gyfarwyddo asesiadau gwyddonol, technegol ac economaidd rhyngwladol ar ddirywiad yr oson stratosfferig, bioamrywiaeth ac ecosystemau (GBA ac MA), newid yn yr hinsawdd (IPCC) a gwyddoniaeth a thechnoleg amaethyddol (IAASTD).
Mae meysydd arbenigedd yr Athro Watson yn cynnwys rheoli a chydlynu rhaglenni amgylcheddol cenedlaethol a rhyngwladol, rhaglenni ac asesiadau ymchwil; sefydlu polisïau gwyddonol ac amgylcheddol - sef, yn benodol, cynghori llywodraethau a’r gymdeithas sifil ar oblygiadau polisi gwybodaeth wyddonol a’r dewisiadau polisi o ran gweithredu; yn ogystal â rhoi gwybodaeth wyddonol, dechnegol ac economaidd i lunwyr polisïau.
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae wedi ennill gwobrau ac anrhydeddau cenedlaethol a rhyngwladol yn gydnabyddiaeth i’w gyfraniadau at wyddoniaeth a’r rhyngwyneb rhwng gwyddoniaeth a pholisi, gan gynnwys, yn 2003 - “Cydymaith Urdd Sant Mihangel a Sant Siôr” er Anrhydedd.
AU8011