Ymchwilydd adar ar The One Show

Titw mawr

Titw mawr

25 Mawrth 2011

Ar ddydd Mercher 23ain o Fawrth ymddangosodd Dr Rupert Marshall o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ar raglen y BBC, The One Show.

Cafodd Dr Marshall a Millie Mockford, myfyrwraig sydd wedi ei chyllido gan NERC (Natural Environment Research Council), eu gwahodd i drafod eu hymchwil i gân y titw mawr.

Mae ymchwil Dr Marshall wedi bod yn canolbwyntio ar paham fod adar yn canu’n uwch mewn ardal lle mae llawer o sŵn wedi ei greu gan ddyn, ac effaith hynny ar allu'r ceiliog i ddenu cymar.

Mae’r eitem i’w gweld rhwng munudau 24 a 28 o’r rhaglen ac mae ar gael am y 5 niwrnod nesaf ar: http://www.bbc.co.uk/programmes/b00zw62b#synopsis.    

Os am wybod mwy am waith ymchwil Dr Marshall ewch i’w wefan: http://users.aber.ac.uk/rmm/urbansong.htm.