Ai colostrwm llaeth yw’r allwedd i lwyddiant Olympaidd?
Dr Glen Davison
24 Mawrth 2011
Mae ymchwil a gynhaliwyd yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ffurfio sail ar gyfer ymchwiliad i ddulliau naturiol o wella perfformiad athletaidd, ac wedi dangos bod colostrwm gwartheg yn gallu lleihau athreiddedd y coluddion – yr hyn a elwir yn ‘syndrom coluddion yn gollwng’ - yn rhyfeddol.
Gallai’r canfyddiadau, a gyhoeddir yn rhifyn mis Mawrth o’r American Journal of Physiology-Gastrointestinal and Liver Physiology, fod â goblygiadau cadarnhaol i athletwyr a hefyd i’r rheini sy’n dioddef yn sgil trawiad gwres.
Roedd y prosiect yn edrych ar athletwyr y gofynnwyd iddynt redeg am 20 munud ar 80 y cant o’u huchafswm aerobig, ac ar ddiwedd yr ymarfer, a gynhaliwyd yn labordai uchel-dechnoleg Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth, mesurwyd unrhyw newidiadau yn y modd yr oedd coluddion y rhedwyr yn gollwng gan ddefnyddio sampl o wrin. Roedd hyn hefyd yn canfod unrhyw newidiadau yn nhymheredd craidd yr athletwyr.
Dan amodau safonol, gwelwyd cynnydd o 250 y cant yn yr hyn a ollyngwyd, a chodiad o hyd at 2 radd mewn tymheredd. Fodd bynnag, pan roddwyd diod o golostrwm llaeth i’r grŵp bob dydd am bythefnos cyn y prawf, roedd y cynnydd yn yr hyn a ollyngwyd gan y coluddion tua 80 y cant yn llai, er gwaethaf yr un ymdrech a’r un codiad tymheredd.
Mae anhwylderau coluddion yn sgil ymarfer corff yn gyffredin mewn rhedwyr – ymateb y corff i gynnydd mewn athreiddedd yw clirio cynnwys y coluddion, sy’n arwain at symptomau fel dolur rhydd i atal tocsinau o organebau yn y coluddion rhag mynd i’r gwaed, oherwydd gall y rhain gyfrannu at symptomau sy’n gysylltiedig â thrawiad gwres, a allai ddifrodi organau mewnol.
Canfu’r ymchwil, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â grŵp dan arweiniad Ray Playford, Athro Meddygaeth yn Barts ac Ysgol Meddygaeth a Deintyddiaeth Llundain, newidiadau hefyd yng ngweithrediad rhwystrau coluddion mewn astudiaethau yn y labordy: cafodd celloedd coluddion eu meithrin ar wres normal 37 gradd y corff a hefyd ar 39 gradd i atgynhyrchu’r tymheredd ar ôl ymarfer. Roedd cyfradd farw’r celloedd lawer yn uwch ar y tymheredd uwch ond pan ychwanegwyd colostrwm i’r meithriniad, cafwyd gostyngiad o ddwy ran o dair yn y gyfradd farw.
Dywedodd yr Athro Ray Playford: “Gall perfformiad athletwyr fod lawer yn is oherwydd symptomau yn y coluddion yn ystod ymarfer corff caled. Rydym ni wedi bod yn edrych ar ddulliau naturiol o leihau’r broblem hon gan fod yr ystod o gynhyrchion y gall athletwyr eu cymryd yn gyfreithlon yn gyfyngedig iawn. Mae ein canfyddiadau yn awgrymu bod gwerth gwirioneddol i golostrwm i helpu ein hathletwyr â’u perfformiad.
“Hefyd profir eithafion tymheredd ac ymarfer gan y lluoedd arfog mewn senarios rhyfel yn y difethwch a gall hyn arwain at drawiad gwres a all beryglu bywyd. Yn seiliedig ar ein canlyniadau hyd yma, mae ein grŵp ymchwil hefyd yn archwilio cynhyrchion a allai fod yn ddefnyddiol i warchod milwyr mewn sefyllfaoedd bygythiol fel y rhain.”
Y prosiect hwn yw’r enghraifft gyntaf o gydweithio rhwng yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Barts ac Ysgol Meddygaeth a Deintyddiaeth Llundain, ac mae ei lwyddiant yn argoeli’n dda at y dyfodol.
Dywedodd Dr Glen Davison o Brifysgol Aberystwyth, oedd yn gyfrifol am gydlynu’r ymchwil yn Aberystwyth: "Rydym ni’n hynod o falch fod yr Athro Playford a’i dîm, sy’n flaenllaw drwy’r byd, wedi dewis gweithio gyda ni oherwydd ein harbenigedd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae hyn yn dangos bod yr Adran yn Aberystwyth yn derbyn cydnabyddiaeth am ei hymchwil Chwaraeon ac Ymarfer Corff.”
“Mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn ategu gwaith arall yn yr Adran sy’n dangos bod atychwanegiadau colostrwm gwartheg yn gallu bod yn llesol i’r system imiwnedd a salwch mewn athletwyr yn ogystal â helpu i amddiffyn y coluddion. Rydym ni ar hyn o bryd yn cynnal rhagor o ymchwiliadau ac yn parhau i weithio gyda’r Athro Playford i gynllunio astudiaethau gwyddonol trylwyr a fydd yn darparu rhagor o wybodaeth ar y pwnc hwn,” ychwanegodd.
Colostrwm gwartheg (llaeth tor) yw’r llaeth cynnar mae gwartheg yn ei gynhyrchu o fewn 48 awr roi genedigaeth. Mae ar gael yn fasnachol ar draws y byd ac yn cael ei gasglu o laethdai organig fel arfer. Mae’n ffynhonnell gyfoethog o faeth, fel llaeth arferol, yn nhermau maetholion macro a micro ac mae hefyd mae’n llawn cynhwysion bio-weithredol gan gynnwys ffactorau imiwnedd, tyfiant a gwrth-ficrobig.