Ynni gwyrdd

Gallau glaswellt, brwyn a rhedyn ddarparu ynni

Gallau glaswellt, brwyn a rhedyn ddarparu ynni

11 Mawrth 2011

Gallai gwaith ymchwil rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth gynnig ffynhonnell newydd o ynni gwyrdd a helpu i warchod tir sy’n bwysig o ran byd natur.

Mae IBERS – y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn y Brifysgol – yn gweithio gyda chanolfannau ymchwil yn yr Almaen ac Estonia i ddatblygu ffyrdd newydd o reoli porfeydd segur a’u troi’n gynhyrchiol.

Mae gwyddonwyr yn gweithio ar chwe safle arbrofol ym mhob un o'r tair gwlad, gan ddefnyddio amrywiaeth o laswellt brodorol a phlanhigion ‘niwsans’ fel brwyn a rhedyn er mwyn creu ynni.

Cyllun 3.5 mlynedd yw PROGRASS sy’n cael arian trwy gronfa LIFE+ y Comisiwn Ewropeaidd a’r nod yw gwneud gwell defnydd o borfeydd mewn safleoedd sydd wedi’u gwarchod, gan gynyddu bioamrywiaeth trwy gynnig ffordd gynaliadwy o reoli’r tir.

Gallai’r ymchwil hefyd arwain at ffynhonnell newydd o incwm i ffermwyr Cymru a mwy o ddefnydd o ynni glân.

Y cynllun
Mae uned brosesu arbennig bellach ar gampws IBERS yng Ngogerddan ger Aberystwyth ac yn gallu prosesu hyd at 400 kg o silwair o borfeydd garw, gan ei droi’n hylifau sy’n cynhyrchu nwy naturiol. Mae yna hefyd sgil-gynnyrch arall sy’n gallu cael ei losgi neu ei droi’n danwyddau eraill.

Mae dwy o’r safleoedd arbrofol yng Nghymru ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, dan reolaeth y Cyngor Cefn Gwlad.

Mae’r borfa a’r planhigion eraill sy’n tyfu yn y safleoedd hyn yn nodweddiadol o lystyfiant yng Nghymru – fel rheol, maen nhw’n cael eu hystyried yn gymharol ddiwerth o ran bwyd anifeiliaid ac felly mewn peryg o gael eu gadael yn segur heb eu pori, a hynny’n peryglu’r bioamrywiaeth arnyn nhw.

Ennill ddwywaith

“Bydd y silwair yn cael ei drin gyda dŵr poeth ac wedyn ei roi drwy beiriant gwasgu i dynnu’r hylifau ohono. Bydd y rheiny wedyn yn cael eu heplesu i gynhyrchu nwy naturiol,” meddai un o’r gwyddonwyr sy’n arwain y gwaith yn IBERS, Dr Mariecia Fraser.

“Bydd y nwy sy’n cael ei gynhyrchu’n cael ei drin ac mae modd defnyddio un o’r sgil-gynhyrchion hefyd ar gyfer creu ynni.

“Gallai’r gwaith ymchwil yma arwain at ennill amgylcheddol dyblyg: mwy o fioamrywiaeth ac ynni adnewyddadwy.”

I Gyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell, mae PROGRASS yn enghraifft arall o hanes hir y Sefydliad o gynnal gwaith ymchwil academaidd o safon rhyngwladol, a hwnnw o fudd ymarferol i ffermwyr gwledydd Prydain ac i’r gymdeithas yn gyffredinol.

“Yn ogystal â bridio planhigion a gofal am anifeiliaid, mae IBERS bellach yn ennill enw rhyngwladol am ymchwil i ddatblygu cnydau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol,” meddai. “Gall ymchwil o’r fath fod o fudd anferth i Gymru a’r byd.”