Ceirch iach

Dr Athole Marshall

Dr Athole Marshall

11 Mawrth 2011

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu mathau newydd o gnwd traddodiadol a allai leihau achosion o glefyd y galon.

Dyna un o fendithion iechyd cemegyn o’r enw beta glwcan sydd i’w gael mewn ceirch, cnwd sy’n gallu ymdopi’n dda gyda thir amaethyddol salach a hinsawdd wlypach ardaloedd fel gorllewin Cymru.

Gall beta glwcan helpu i ddal colesterol a’i atal rhag mynd i’r gwaed, felly mae arbenigwyr yn IBERS - Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth - yn bridio amrywiaethau newydd o geirch gyda lefel uchel o beta glwcan.

 “Mae yna fendithion clir o ran iechyd pobl,” meddai’r gwyddonydd sy’n arwain y gwaith, Athole Marshall. “Gostwng lefelau cholesterol yw’r mwyaf amlwg o’r rhain.

Bydd hyn yn golygu bod ceirch yn gnwd mwy deniadol yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ble mae traddodiad o’i dyfu. Bydd ein hymchwil ni’n cynnig cyfleoedd newydd i ffermwyr.”

Mae’r gwaith ymchwil yn cynnwys datblygu technegau i fesur faint o feta glwcan sydd mewn gwahanol fathau o geirch ac yna croesi’r rhai mwyaf addawol gyda’i gilydd.

Mae’n hanfodol hefyd bod y mathau newydd yn cynhyrchu’n doreithiog er mwyn cynnal lefelau elw i ffermwyr.

Mae profion yn cael eu cynnal ar wahanol fathau o geirch yn Aberystwyth, a hefyd mewn ardaloedd fel yr Alban, er mwyn gallu eu profi mewn tywydd a phridd gwahanol.

Y gobaith yw y bydd y mathau newydd o geirch gaeaf a cheirch gwanwyn ar werth i ffermwyr o fewn yr ychydig flynyddoedd nesa’.

Mae gan IBERS enw da rhyngwladol am ddatblygu mathau newydd o geirch ac mae llawer o gynhyrchion y Sefydliad yn arwain y farchnad ryngwladol.

“Dyma esiampl arall o’r ffordd y mae gwaith ymchwil gwyddonol o safon uchel yn cael ei wneud yn IBERS er mwyn bod o fudd uniongyrchol i ffermwyr a chwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig,” meddai Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Wayne Powell.

IBERS

Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig yn bodoli ers 2008 yn dilyn uno’rSefydliad Ymchwil Tir Glas â’r Amgylchedd ( IGER ), rhan o’r Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC),  gyda Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn parhau i dderbyn arian sylweddol ar gyfer ymchwil gan y BBSRC ynghyd â chefnogaeth ariannol gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae tua 300 o staff ymchwil, addysg a chefnogol yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol mewn bioleg o lefel genynau a moleciwlau eraill, i effaith newid hinsawdd a bio-ynni ar y defnydd o dir a amaethyddiaeth cynaliadwy.