Y Cread

“Bydd enillydd Cystadleuaeth Kathleen Ferrier, Njabulo Madlala, yn dychwelyd I ganu yn Y Cread gydag Undeb Gorawl Aberystwyth ar y 12fed o Fawrth”

“Bydd enillydd Cystadleuaeth Kathleen Ferrier, Njabulo Madlala, yn dychwelyd I ganu yn Y Cread gydag Undeb Gorawl Aberystwyth ar y 12fed o Fawrth”

11 Mawrth 2011

Mae’r Cread, gwaith bythol-boblogaidd Haydn yn dod i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 12 Mawrth. Perfformiad gan Undeb Gorawl y Brifysgol gyda’r unawdwyr, Katherine Fuge soprano, y tenor James Geer a’r baritone Njabulo Madlala, enillydd Gwobr Kathleen Ferrier, o dan arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr Cerdd Dr David Russell Hulme.

 Bydd y cyngerdd yn dechrau am 8 yr hwyr. Pris tocynnau yn decrhau ar £3.50 (llai hyd yn oed i blant gyda’u rhieni). Mae hon yn mynd i fod yn noson wych o gerddoriaeth fyw. Sdim yn well na bod yno – dyma'ch cyfle i fod yn rhan o’r cyfan.

 Swyddfa Docynnau: 01970 623232

 AU4811