Beacon

Gellir defnyddio'r siwgr sydd mewn porfa i greu bioethanol a llawer mwy.

Gellir defnyddio'r siwgr sydd mewn porfa i greu bioethanol a llawer mwy.

15 Chwefror 2011

Prifysgol Aberystwyth yn arwain rhaglen technoleg werdd gwerth £20 miliwn

Mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain rhaglen a allai hybu’r economi werdd yng Nghymru yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i ymladd newid yn yr hinsawdd.

Bydd rhaglen BEACON yn anelu at ddatblygu technolegau newydd a dulliau newydd o wneud cynhyrchion sydd yn draddodiadol yn cael eu gwneud o olew. Bydd yn sefydlu Cymru fel Canolfan o Ragoriaeth ym maes Bio-buro, gyda chyfanswm cyllideb o £20miliwn.

Heddiw cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones AC, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, £10.5 miliwn o gyllid ar gyfer y rhaglen o’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.   

Gwnaeth Mr Jones, sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, y cyhoeddiad mewn digwyddiad yn y Senedd ar ddydd Mawrth 15 Chwefror i arddangos ymchwil o safon byd sydd yn cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn ymateb i heriau byd eang yr 21ain ganrif.

Bydd BEACON hefyd yn creu cysylltiadau mwy clos rhwng prifysgolion a diwydiant, yn hybu arbenigedd Cymreig mewn ymchwil gwyddonol ac arloesi yn Ewrop a’r Unol Daleithiau ac yn hybu mewnfuddsoddiad yn y technolegau hyn er budd Cymru.

Aberystwyth yn arwain
Y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth sydd yn arwain y bartneriaeth, a bydd yn cydweithio â Phrifysgolion Bangor ac Abertawe.

Bydd yr ymchwil arloesol yn cynnwys bio-buro - datblygu prosesau soffistigedig i droi cnydau a dyfir yn lleol yn gemegau ac yn gynhyrchion masnachol gwerthfawr, yn amrywio o danwydd i golur, cyffuriau , tecstilau a chynhyrchion bwyd ac iechyd.

Mae bio-buro yn golygu bod defnydd llawn yn cael ei wneud o gnydau, ac ar yr un pryd mae allyriadau tŷ gwydr yn cael eu lleihau. Mae IBERS eisoes yn gwneud gwaith arloesol yn cynhyrchu tanwydd o gnydau egni megis gweiriau sy’n uchel mewn siwgr.

“Rydym ni wrth ein bodd yn arwain y prosiect partneriaeth hwn a allai dod â budd enfawr i Gymru gyfan a’r byd,” dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Noel Lloyd.

“Drwy rannu gwybodaeth a defnyddio arbenigedd cyfun ein tri sefydliad, gallwn ddatblygu canolfannau o ragoriaeth ar draws Cymru er mwyn ymateb i her bwysig sydd yn wynebu’r byd.”

Hwb i Gymru
Ceir llawer o fuddion:
•    Gellir tyfu’r cnydau egni newydd ar dir nad yw’n addas at ddibenion amaethyddol eraill.
•    Gallai newid rhai o’r cemegau diwydiannol sydd yn cael eu cynhyrchu o olew gyda moleciwlau o blanhigion a allai gyflenwi marchnadoedd posibl hawdd cyrraedd atynt i gynhyrchwyr yng Nghymru ac a allai fod gwerth rhwng £360 miliwn a £560 miliwn.
•    Byddai troi cnydau megis Rhygwellt, Miscanthus, Ceirch ac Artisogau yn danwydd a chemegau gwerthfawr yn torri’n ôl ar nwyon tŷ gwydr, yn cynyddu diogelwch tanwydd a chemegau ac yn ychwanegu gwerth i amaethyddiaeth ac economi Cymru.
•    Mae modd defnyddio cemegau sy’n deillio o gnydau egni mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys: diwydiant, trafnidiaeth, tecstilau, bwyd, cyfathrebu, yr amgylchedd, hamdden, tai ac iechyd a hylendid.
•    Mae’r rhain yn cynnwys deunyddiau newydd o’r enw bio-gyfansoddiau a bio-blastigau
•    Yn ogystal â chreu a diogelu swyddi yn yr economi wledig, bydd y gwaith arloesol yn helpu i ddatblygu gwyddoniaeth yng Nghymru.

“Mae IBERS wastad wedi arwain y byd yn y dasg o ddatblygu cyfleoedd cynaliadwy newydd,” dywedodd Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell. “Mae rhaglen BEACON wedi ei seilio ar gysyniad bio-buro, gan defnyddio’r ymchwil academaidd diweddaraf i gyflenwi datrysiadau ymarferol i broblemau byd-eang.”