'Cosmic Imagery: the influence of pictures in science'

Yr Athro Barrow

Yr Athro Barrow

05 Chwefror 2011

Darlith Gregynog, 7 yr hwyr, nos Fawrth 8ed Chwefror 2011

'Cosmic Imagery: the influence of pictures in science'

Traddodir Darlith Gregynog eleni gan yr Yr Athro John Barrow FRS yn Athro Gwyddorau Mathemategol ym Mhrifysgol Caergrawnt am 7 yr hwyr, nos Fawrth 8ed Chwefror 2011 ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Barrow yn cynnwys ffiseg fathemategol, â diddordeb arbennig mewn cosmoleg, disgyrchiant, astroffiseg a mathemateg gymhwysol gysylltiedig. Ef hefyd yw Athro Geometreg Gresham yng Ngholeg Gresham, Llundain.

Mae’r Athro Barrow hefyd yn Gyfarwyddwr Prosiect Mathemateg y Mileniwm sy’n ceisio sicrhau bod pobl ifanc a’r cyhoedd yn gyffredinol yn gwerthfawrogi a chael gwell dealltwriaeth o fathemateg a’r ffyrdd y gellir ei rhoi ar waith. Yn gydnabyddiaeth o’i waith, derbyniodd y Prosiect Wobr Pen-blwydd Coroni’r Frenhines am Lwyddiant Addysgiadol yn 2005. Ar ben hyn, mae ei waith wedi cael ei gydnabod gan nifer o wobrau yn cynnwys Gwobr Faraday y Gymdeithas Frenhinol yn 2008, Medal Kelvin y Sefydliad Ffiseg yn 2009 a Gwobr Templeton 2006.

Mae’n awdur dros 450 o erthyglau gwyddonol ac 20 o lyfrau, a gyfieithwyd i 28 o ieithoedd, sy’n archwilio goblygiadau hanesyddol, athronyddol a diwylliannol ehangach datblygiadau ym myd mathemateg, ffiseg a seryddiaeth. Mae’r Athro Barrow hefyd wedi traddodi darlithoedd mewn nifer o leoliadau proffil uchel yn cynnwys 10 Downing Street, Castell Windsor, Palas y Fatican a Gŵyl Ffilmiau Fenis. Ef hefyd yw awdur y ddrama (Eidaleg) ‘Infinities’, a gyfarwyddwyd gan Luca Ronconi, a enillodd y wobr Eidalaidd Premi Ubu am y ddrama orau ym myd theatr yr Eidal yn 2002.

AU34/11