Darlith Gyhoeddus
Y Fonesig Morgan
31 Ionawr 2011
Prif Was Sifil Cymru yn siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd prif was sifil Cymru yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yr wythnos nesaf. Bydd y Fonesig Gill Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn traddodi darlith gyhoeddus ar y pwnc: ‘Government in Wales: the Next Ten Years’.
Mae’r Fonesig Gill yn gyn feddyg teulu ac ymgynghorydd mewn ysbyty a bu’n Brif Weithredwr Ffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhwng 2002 a 2008 cyn cael ei hapwyntio i olynu Syr Jon Shortridge yn Llywodraeth y Cynulliad ym Mai 2008. Mae hi hefyd yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon a’r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus, yn aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu, ac yn gyn Lywydd y Ffederasiwn Ysbytai Rhyngwladol.
Trefnir darlith y Fonesig Gill ar y cyd gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a’r Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig. Wrth edrych ymlaen at y ddarlith, dywedodd Dr Catrin Fflur Huws, Cyfarwyddwr y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig: “O bersbectif cyfreithiol, bydd y ddeng mlynedd nesaf yn gyfnod cyffrous iawn yng Nghymru. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddeddfwrfa sy’n esblygu, ac wrth iddo symud i’w bedwerydd tymor, bydd yn gallu adeiladu’n sylweddol ar y seiliau a osodwyd yn y blynyddoedd cynnar.”
Ychwanegodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, fod “y Fonesig Gill yn un o’r unigolion pwysicaf yng Nghymru heddiw. Fel prif was sifil Cymru, mae hi’n ganolog i ddatblygiad strwythurol a gweithredol Llywodraeth y Cynulliad. Dylai fod yn ddiddorol iawn clywed yr hyn sydd ganddi hi i’w ddweud am y datblygiadau yn y modd y cawn ein llywodraethu dros y ddeng mlynedd nesaf”.
Traddodir y ddarlith nos Iau, y 3ydd o Chwefror 2011 am 7 o’r gloch yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Croeso i bawb.
Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Gan adlewyrchu ei gartref o fewn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol hynaf y byd, mae gwaith y Sefydliad yn cynnwys astudiaeth o’r prosesau gwleidyddol o fewn Cymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol ac economaidd-wleidyddol Cymru â Phrydain, Ewrop, a gweddill y byd.
Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig
Sefydlwyd y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ym mis Ionawr 1999 er mwyn atgyfnerthu a rhoi ffocws penodol i arbenigedd a gwaith Adran y Gyfraith a Throseddeg ar y gyfraith fel y’i cymhwysir o fewn Cymru ac ar y datblygiadau cyfreithiol cyffredinol sydd yn berthnasol i Gymru. Un o amcanion allweddol y Ganolfan yw ystyried a oes yna bersbectif penodol Cymreig i gwestiynau cyfreithiol cyffredinol o fewn y system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ac i sicrhau fod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu gosod o fewn cyd-destun ehangach datblygiadau ar y lefel Brydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol. Fodd bynnag, mae’r gwaith yn ehangach na phroses a gweithrediad datganoli; mae prosiectau perthnasol eraill gan aelodau o staff y Ganolfan yn cynnwys gwaith ar hawliau dynol, rhyddid gwybodaeth ,yr Iaith Gymraeg, a chyfiawnder troseddol o fewn cyd-destun Cymreig. Mae ymchwilio’r i’r materion hyn yng nghyd-destun Cymru ac ar sail cymharol yn gwella ein dealltwriaeth o feysydd cyffredinol ac yn ehangu ein persbectifau arnynt.
AU2411