Gwahoddiad gweinidogol
Yr Athro Wayne Powell
12 Ionawr 2011
Mae’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth, wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â Grŵp Cynghori ar Fusnes Cymru a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Mynychodd yr Athro Powell gyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan, yn Tŷ Gwydyr, Llundain, ym mis Rhagfyr.
Sefydlwyd y grŵp gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i edrych ar yr amgylchedd busnes yng Nghymru a gwrando ar safbwyntiau arweinwyr busnes Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei anfon ymlaen at Grŵp Cynghori ar Fusnes y Deyrnas Unedig, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog.
Croesawodd Mrs Gillan a’r Gweinidog o Swyddfa Cymru David Jones gynrychiolwyr o bob rhan o’r sbectrwm busnes yng Nghymru i glywed eu barn am amgylchedd busnes Cymru o lygad y ffynnon.
Meddai Mrs Gillan: “Ni allai’r grŵp hwn fod wedi cael ei ffurfio ar adeg fwy addas, yn dilyn ffigurau diweddar sy’n cadarnhau bod Cymru wedi cwympo ymhellach tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig o ran ffyniant, a bod nifer o ardaloedd tlotaf y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yng Nghymru.
“Yn y cyfarfod cychwynnol hwn roeddwn am ganolbwyntio ar yr hyn y mae aelodau’r Grŵp Cynghori yn credu yw prif gryfderau a gwendidau’r amgylchedd busnes yng Nghymru, a sut gallwn adeiladu i sicrhau twf yn y dyfodol.
“Mae’r Grŵp Cynghori ar Fusnes yn fy ngalluogi i drafod sut mae busnesau Cymru’n ymdopi ‘ar lawr gwlad’, ac mae’n rhoi cyfle i’r rhai sy’n mynychu’r cyfarfod i rannu’r materion sydd, yn eu barn nhw, yn effeithio ar yr economi yng Nghymru, ac sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu busnesau.”
Ychwanegodd Mrs Gillan: “Tra bod yna arwyddion bod y sefyllfa ddiweithdra yng Nghymru yn dechrau gwella, bu cynnydd dramatig mewn diweithdra ymysg pobl ifanc ledled Cymru o dan y Llywodraeth flaenorol, ffaith sy’n ein hatgoffa pam ei fod mor bwysig ein bod yn gallu darparu swyddi i bobl ifanc.”
Roedd mynychwyr y cyfarfod yn cynnwys:
- David Rosser, CBI Cymru
- Russell Lawson, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
- Steve Thomas, Airbus
- Phil Orford, Fforwm Busnesau Preifat
- Dylan Jones Evans, Prifysgol Cymru
- Graham Hillier, Toyota
- Colin Orr Burns, Dragon LNG
- Yr Athro Stuart Cole, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru
- Yr Athro Wayne Powell, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth
- Paul Gorin, Smart Solutions Recruitment
Cytunodd yr aelodau y dylai’r Grŵp Cynghori ar Fusnes gyfarfod yn chwarterol, gyda’r cyfarfod nesaf ym mis Mawrth.
AU11/11