Taith i begwn y de
Gweithio ar yr ia
06 Ionawr 2011
Gwyddonydd o Aberystwyth yn arwain taith i begwn y de
Bydd gwyddonwyr o Brifysgolion Aberystwyth a Leeds yn ymuno â’i gilydd y mis hwn ar daith i’r Antarctig i ddysgu mwy am hanes hinsawdd y rhanbarth.
O dan arweinyddiaeth yr Athro Neil Glasser of Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, bydd y tîm yn gwneud eu ffordd i ran o’r cyfandir oeraf, mwyaf gwyntog, uchaf a sychaf ar y Ddaear i chwilio am unrhyw beth a allai ddangos i ni sut y bu rhewlifoedd a llenni iâ Penrhyn gogledd ddwyreiniol yr Antarctig yn ymddwyn yn ystod hinsoddau’r gorffennol a’r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl yn y dyfodol.
Dros yr hanner canrif ddiwethaf mae Penrhyn yr Antarctig wedi dioddef cynhesu uwch na’r cyfartaledd, gydag o ddeutu 2.5°C o gynnydd yn y tymheredd er 1950. Mae’r cynhesu hwn yn achosi i rewlifoedd a llenni iâ doddi, gan ryddhau llawer iawn o ddŵr ffres i’r cefnforoedd, sydd yn codi lefel y môr a hefyd yn dylanwadu ar gylchrediad y dyfnfor a’r hinsawdd ranbarthol.
Fodd bynnag, nid yw gwyddonwyr yn deall yn llawn y berthynas rhwng tymheredd yr aer a’r môr â’r modd y mae iâ yn toddi. Felly mae’n anodd iddynt asesu a oes cynsail ai peidio i’r toddi sy’n digwydd ar hyn o bryd yng nghyd-destun amser daearegol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn, bydd y tîm yn casglu samplau o graig ac yn dyddio eu hamlygiad i ymbelydredd cosmig ac felly yn dadansoddi sut mae’r rhewlifoedd a’r iâ wedi crebachu ers yr oes iâ ddiwethaf, tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl.
“Credir yn gyffredinol fod cwymp llenni iâ’r Antarctig yn digwydd o ganlyniad i gynhesu yn yr atmosffer, ond mae’n ymddangos bod newidiadau yn nhymheredd y môr a strwythur y llen iâ hefyd yn bwysig,” meddai’ Athro Neil Glasser.
“Gyda disgwyl i’r hinsawdd gynhesu yn y dyfodol, mae’n bwysig ein bod yn deall sut y bu rhewlifoedd a llenni iâ’r Antarctic yn ymddwyn yn y gorffennol er mwyn i ni allu rhagweld sut y byddant yn ymateb ymhen blynyddoedd os yw’r tymheredd yn parhau i godi.”
Bydd y Llong Ymchwil Frenhinol Earnest Shackleton yn hebrwng y tîm o dri gwyddonydd ac un cynorthwyydd maes o Arolwg Antarctic Prydain (BAS) i Ynys James Ross, gerllaw Penrhyn yr Antarctic. Bydd ganddynt gyfarpar trwm gan gynnwys pedwar beic cwad, dau drelar, cyfarpar gwyddonol, pebyll a digon o fwyd a thanwydd i bara tri mis.
“Rydym ni’n disgwyl i’r daith fod yn hynod o gyffrous a heriol, gan ei bod yn gofyn am ddull gwahanol iawn o weithredu,” meddai Dr Jonathan Carrivick o Brifysgol Leeds, a fydd yn rhan o’r daith. “Fel arfer pan fydd ymchwilwyr yn gweithio yn Antarctica maen nhw’n gweithio ar fwrdd llong ymchwil neu mewn gorsaf sefydlog, ond byddwn ni’n cael ein gadael gyda’n cyfarpar i gyd am ddau fis gyda dim byd ond cyswllt radio â gweddill y byd.”
Bydd y tîm yn treulio’r amser yn casglu tua 100 o flychau o samplau o graig, ac yna’n dod â nhw’n ôl i Brydain i’w hastudio mewn labordy. Byddant yn dadansoddi mwynyddiaeth, geocemeg a nodweddion isotopig y graig i bennu pryd y cafodd ei hamlygu gyntaf i belydrau cosmig; a chanfod pryd y diflannodd yr iâ o’r safle penodol hwnnw. Mae cynlluniau hefyd i fapio ardal ddi-iâ 600km² ar yr ynys i’w galluogi i greu model tirwedd 3D.
Yn ymuno â’r Athro Glasser a Dr Carrivick bydd Dr Bethan Davies, hefyd o Brifysgol Aberystwyth, ac Alan Hill o BAS. Caiff yr ymchwil ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol.
AU411