Astudiaeth methan

Gwarthed ar un o ffermydd y Brifysgol

Gwarthed ar un o ffermydd y Brifysgol

20 Rhagfyr 2010

Sefydliad Cymreig yn arwain brwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Prosiect newydd gwerth £3.9 miliwn i leihau nwyon tŷ gwydr o anifeiliaid fferm.

Mae IBERS - y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth – yn arwain prosiect gwerth £3.9 miliwn i wella ein dealltwriaeth o’r nwy methan niweidiol sy’n cael ei greu trwy ffermio ac o werth ymdrechion y diwydiant i’w reoli.

Gan weithio gyda thimau o chwe sefydliad arall ar draws y Deyrnas Unedig, bydd gwyddonwyr IBERS yn asesu faint o fethan sy’n cael ei ollwng i’r amgylchedd gan dda byw ac yn cynhyrchu gwybodaeth sy’n cynnig amcangyfrifon mwy cywir o allyriadau trwy’r DU.

"Mae’r ffaith bod IBERS wedi ei ddewis i arwain y gwaith yn arwydd o enw rhyngwladol y Sefydliad," meddai Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell.

"Mae ein gwyddonwyr, sydd o safon byd, wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd ar amrywiaeth o brosiectau i leihau lefelau methan o amaeth ac, yn ogystal â bod ar y blaen gyda thechnolegau genomaidd newydd, mae gyda ni fwy na 90 mlynedd o brofiad o fridio planhigion ac anifeiliaid."

Mae’r gwaith ar fethan yn rhan o raglen ymchwil ehangach gwerth £12.6 miliwn o’r enw The Agricultural Greenhouse Gas Inventory Research Platform, sy’n derbyn arian gan yr Adran Amgylchedd, Amaeth a Materion Gwledig (DEFRA) yn Llundain, gyda chyfraniadau gan lywodraethau datganoledig Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd prosiect arall yn gweithio ar allyriadau ocsid nitraidd ac mae trydydd yn astudio dulliau rheoli gwybodaeth ac yn creu strwythur newydd ar gyfer amcangyfrifon mwy cywir o allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Hyd yn hyn, cafodd amcangyfrifon methan eu seilio ar dybiaethau cyffredinol, ond bydd gwaith IBERS yn helpu i ddatblygu system fwy soffistigedig, gan asesu effaith gwahanol fathau o dda byw, gwahanol fwydydd a gwahanol ddulliau ffermio.

Bydd hefyd yn dangos sut y mae ffermwyr yn llwyddo i dorri’n ôl ar allyriadau trwy addasu’u systemau, ac yn dangos pa ddulliau sy’n gweithio orau.

Tros gyfnod o 39 mis, bydd y partneriaid yn y prosiect yn astudio gwartheg godro, gwartheg bîff a defaid a, tra bydd effeithiau dom neu dail yn cael eu hystyried, fe fydd y prif bwyslais ar y gwynt sy’n cael ei greu yn stumogau’r anifeiliaid.

"Byddwn yn defnyddio cyfuniad o fesur uniongyrchol gyda’r anifeiliaid a defnyddio gwybodaeth sydd ar gael eisoes i greu modelau," meddai arweinydd y prosiect, Dr John Moorby.

"Y nod yw llenwi bylchau pwysig yn ein gwybodaeth i gynnwys y rhannau o ffermio da byw sy’n achosi mwya’ o fethan."

Ffeithiau cefndir

  • Rhwng 1990 a 2008, amaeth oedd yn gyfrifol am tua 38% o holl allyriadau methan y Deyrnas Unedig, a’r rhan fwya’ ohono’n dod o systemau treulio bwyd y da byw ac o’u dom.
  • Mae Methan CH4 yn nwy tŷ gwydr sydd 25 o weithiau’n fwy pwerus na charbon deuocsid.
  • IBERS sy’n arwain y prosiect allyriadau methan, a hwnnw’n costio £3.9 miliwn tros 39 mis.
  • Y sefydliadau eraill sy’n rhan o’r prosiect: Coleg Amaethyddol yr Alban, AFBI Hillsborough, Prifysgolion Reading a Nottingham, Rothamsted Research North Wyke a’r National Physical Laboratory.
  • Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth wedi gostwng yn ystod yr 20 mlynedd diwetha’.
  • Rothamsted Research sy’n arwain y prosiect ar ocsid nitraidd.
  • ADAS sy’n arwain y prosiect ar y strwythur cofnodi.

AU24010