Sicrwydd porthiant
IBERS Gogerddan
29 Tachwedd 2010
Trwy strategaeth i dyfu cnydau mae modd arbed arian a chael sicrwydd porthiant
Mae prisiau grawnfwyd yn uchel ac yn codi ond mae canolfan ymchwil a dysgu fyd-enwog yn cynnig syniad a all helpu ffermwyr Cymru i ateb y broblem.
Mae Rheolwr Ffermydd IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu strategaethau i dyfu cnydau o safon uchel a chynnal lefelau elw – mae’n fodel y gall ffermydd eraill ei addasu i arbed miloedd o bunnoedd bob blwyddyn.
Fe all gynnig cyflenwad sicr o borthiant a phris cyson pan fydd ansefydlogrwydd y farchnad yn ei gwneud yn anodd i gynhyrchwyr llaeth a chig gynllunio’u patrwm prynu, meddai Dr Huw McConochie.
“Mae tyfu grawn a chnydau porthiant eraill yn ddrud o’i gymharu â thyfu glaswellt porthiant, ond mae cyflenwad cartref o rawnfwydydd a chnydau uchel eu protîn yn cynnig maetholion hanfodol i anifeiliaid dan dô, a hynny ar bris mwy realistig a chyson,” meddai.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ffermydd IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – wedi tyfu amrywiaeth o gnydau er mwyn cyflenwi peth o’r ynni a’r protîn sydd ei angen ar eu 500 o deirw biff, eu 300 o wartheg llaeth ifanc a’r 650 sydd yn y fuches laeth ei hun.
Roedd y cynnydd anferth mewn prisiau yr hydref hwn yn ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed i ddatblygu strategaeth, gan fod lefelau elw dan fygythiad yn y mentrau llaeth a biff fel ei gilydd. Mae’r ddwy wedi bod yn dibynnu’n drwm ar rawnfwyd wedi’i brynu.
Mae’r strategaeth blannu eleni wedi bod yn llwyddiant, meddai Huw McConochie, ac fe allai ddangos y ffordd ar gyfer ffermwyr eraill.
“Er mwyn gwrthsefyll y farchnad anghyson ac ansefydlog, fe wnaethon ni dyfu 50 hectar o gorn ar gyfer porthiant, 28 hectar o rawn gaeaf a 15 hectar yn ychwanegol o feillion coch uchel ei brotîn – y cyfan er mwyn lleihau dibyniaeth y fenter ffermio ar y farchnad fwydydd anwadal.
Y wers arall o brofiad Ffermydd IBERS yw bod prosesu’r cnydau yr un mor bwysig â’r tyfu.
“Am y tro cyntaf eleni, r’yn ni wedi cynaeafu 4 hectar o’n cnwd o india corn ar ffurf cobiau wedi’u malu a’u silio – cynhyrchodd y cnwd 18 tunnell yr hectar o borthiant uchel ei starts a’i ynni ac fe fydd yn cymryd lle’r barlys gaeaf ym mwyd y gwartheg godro, pan fydd hwnnw’n dod i ben ym mis Rhagfyr,” meddai Dr McConochie.
Yn ogystal, bydd gyrr IBERS o deirw biff yn derbyn deiet sydd wedi’i seilio ar gorn wedi’i silio gyda mineralau a phrotîn ychwanegol, a hynny ar bris sy’n cyfateb i gost prynu porthiant cyn y cynnydd prisiau.
“Mae fy rhesymeg yn syml,” meddai Dr McConochie, “mae tyfu cnydau ar y fferm yn yswiriant rhag y blynyddoedd pan fydd pris grawnfwydydd a phrynu phrotîn yn codi’n uwch na chost tyfu cnydau ar y fferm.”
Mae Ffermydd IBERS yn bwriadu datblygu rhagor gnydau, gan gynnwys betys ar gyfer porthiant a chnwd uchel ei brotîn fel blodau haul – er mwyn cynnal cyflenwad digonol o faetholion ar gyfer cynhyrchu llaeth a biff.
AU22610