Gwell ffermio, gwell amgylchedd

Hau gwenith gaeaf ar un o ffermydd IBERS.

Hau gwenith gaeaf ar un o ffermydd IBERS.

26 Tachwedd 2010

Gwell ffermio, gwell incwm, gwell amgylchedd

Yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni, bydd Prifysgol Aberystwyth IBERS yn dangos i ffermwyr Cymru bod nifer o ddulliau newydd ar gael i helpu’r amgylchedd ac i’w helpu eu hunain yr un pryd.

Ac, mewn trafodaeth arbennig tros frecwast ddydd Mawrth, Tachwedd 30, fe fydd deiliad yr unig Gadair mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yng ngwledydd Prydain yn codi un o’r pynciau mwya’ llosg ym myd amaeth heddiw, a hynny yng nghwmni Elin Jones AC, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru tros faterion gwledig.

Bydd yr Athro Gareth Edwards Jones, Athro Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn IBERS - Y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth - yn gofyn i’r gynulleidfa wadd,”A all mentrau ffermio mawr fyth fod yn wirioneddol gynaliadwy?”

Gyda chynlluniau ar droed am fuchesi godro o 8,000 ac eraill yn mynnu bod ffermydd bach yn cynhyrchu bwyd gwell, fe fydd yn rhoi’r gwahanol ddadleuon yn y fantol.

Helpu ffermwyr i fod yn gynaliadwy

Bydd tîm IBERS yn helpu ffermwyr Cymru i wneud eu mentrau nhw’n fwy cynaliadwy a phroffidiol. Fe fydd y tîm o’r Ganolfan Ddatblygu Tir Glas a Chanolfan Hinsawdd Cymru, sydd ill dwy yn IBERS, a Rheolwr Ffermydd IBERS ar gael i drafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

Cynllun SLP – Gwerthuso Cynhyrchu Ŵyn yn Gynaladwy. Cynllun newydd cyffrous sy’n anelu at wneud y gorau o geneteg trwy gyfuno’r datblygiadau mewn bridio defaid a defnydd strategol o wahanol fathau o dir glas.

Trwy bori mamogiaid ar ardaloedd sydd heb eu gwella cymaint, a manteisio ar fuddiannau’r mathau diweddaraf o laswellt a meillion er mwyn gorffen ŵyn, mae’r prosiect yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant a ffermwyr masnachol ledled Cymru.

Trwy geisio lleihau costau a chynyddu incwm trwy ddefnydd strategol o fathau gwahanol o dir glas ar y fferm yn ystod y flwyddyn magu defaid, bydd y gwaith yn helpu ffermwyr i bwyso a mesur a datblygu dulliau effeithiol ac amgylcheddol-garedig o gynhyrchu defaid i gwrdd ag anghenion y farchnad.

ProSoil – Mae’r cynllun pum mlynedd yma’n dangos sut y mae IBERS yn gweithio gyda ffermwyr ar draws Cymru i benderfynu sut y mae ansawdd pridd yn effeithio ar ffermio tir glas a sut y gallai rheolaeth dda o bridd arwain at wneud i ffermydd da byw yng Nghymru dalu’n well, a hynny mewn ffordd sy’n parchu’r amgylchedd.

Ar y dechrau, mae’r cynllun yn edrych ar effaith gwella iechyd y pridd ar lefelau cynnyrch ac ansawdd y cnydau porthiant sydd ar gael i dda byw. Y nod yn y tymor hir yw astudio ei effaith ar ansawdd cynnyrch bwyd amaethyddol.

Mae gwaith arbrofol yn digwydd ar leiniau tir ar ffermydd IBERS ac mewn wyth fferm fasnachol ar draws Cymru yn monitro gwerth gwahanol ffyrdd o drin gwahanol fathau o bridd. A’r cynllun bellach yn ei ail flwyddyn, bydd aelodau o’r tîm yn yr uned yn Llanelwedd i roi’r newyddion diweddaraf.

Cenhadaeth IBERS

Mae’r holl brosiectau’n gweddu i thema’r uned – Ffermio Cynaliadwy – ac i genhadaeth IBERS, i ddefnyddio gwaith ymchwil o safon byd i gynnig cymorth ymarferol i’r diwydiant amaeth yng Nghymru a thros y byd.
 
“Mae’r prosiectau hyn yn dangos sut y gall ymchwil academaidd ym maes planhigion ac anifeiliaid helpu ffermwyr i wella eu tir, eu cnydau, eu stoc a’u hincwm,” meddai Cyfarwyddwr IBERS, Wayne Powell.
 
“Mae IBERS yn arwain gyda gwaith ymchwil i helpu wynebu rhai o sialensiau mawr y byd – newid hinsawdd a sicrwydd dŵr, bwyd ac ynni, Mae’r prosiectau’n dangos sut yr ydyn ni’n helpu ffermwyr Cymru yn y meysydd hyn.”

Bydd ymwelwyr ag uned IBERS yn y Ffair Aeaf yn dysgu mwy hefyd am ...
 
Cnydau newydd - Mae Ffermydd PA IBERS wrthi’n gyson yn datblygu technegau a syniadau newydd, gan ddangos esiampl i ffermydd Cymru. Un o’r cyfraniadau diweddaraf yw dangos sut y gall ffermwyr fynd i’r afael â’r cynnydd sydyn ym mhrisiau grawnfwyd, a hynny trwy dyfu grawn a chnydau uchel eu protîn ar gyfer eu da byw.
 
“R’yn ni wedi bod yn plannu cnydau newydd i warchod ein busnes yn erbyn codiadau annisgwyl mewn prisiau a byddwn yn datblygu casgliad pellach o gnydau,” meddai Dr. Huw McConochie, Rheolwr Ffermydd IBERS.

Canolfan Hinsawdd Cymru – bydd staff y ganolfan, sy’n rhan o IBERS, yn cynnig arweiniad ymarferol i ddangos sut y gall ffermydd gynhyrchu eu hynni eu hunain. Bydd y cyngor yn cynnwys asesu tir ar gyfer tyrbinau gwynt a’r treulwyr anaerobig diweddaraf sy’n defnyddio gwastraff o ffermydd i greu ynni. Bydd y tim yn Llanelwedd yn gallu rhoi gwybod am raglen o ddigwyddiadau gwybodaeth ar hyd a lled Cymru.

AU22110