Troseddu a chyfiawnder cymdeithasol
Y Prifweinidog, Carwyn Jones AC, a fydd yn siarad yn lansiad Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
24 Tachwedd 2010
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymuno â chwe phrifysgol arall ledled Cymru i ffurfio Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fydd yn cael ei lansio’n ffurfiol yn y Senedd am 5 o’r gloch heddiw, Dyddd Mercher 24 Tachwedd 2010.
Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, fydd yn noddi'r lansiad a bydd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, sydd ei hun yn raddedig o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, lleoliad pencadlys y Ganolfan newydd, yn annerch y digwyddiad.
Mae’r fenter, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn tynnu at ei gilydd arbenigwyr ar droseddeg, polisi cymdeithasol, y gyfraith a seicoleg o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Glyndŵr, Abertawe, Morgannwg a Chasnewydd, er mwyn cynyddu’r ymchwil sy’n ymwneud â throseddu yng Nghymru, a’i effaith.
Bydd gwaith y Ganolfan yn pontio meysydd polisi datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli, gan gynnwys ymatebion cyfiawnder troseddol i drais a strategaethau i fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y Ganolfan yn cynnig ymchwil o safon uchel sydd yn berthnasol i bolisi ar draws Cymru, ynghyd â chyngor, hyfforddiant, seminarau a gweithdai. Bydd yn adnodd gwerthfawr i Lywodraeth y Cynulliad a sefydliadau llywodraethol, cyhoeddus, preifat a’r drydedd sector.
Mae gan y Ganolfan gysylltiadau clos â Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu (UPSI), sydd ill dau yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth y Cynulliad.
I gyd-fynd â’r lansio ar 24 Tachwedd, bydd y Ganolfan newydd yn cynnal ei seminar gyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm: Criminology for Social Justice. Ymhlith y materion a gaiff eu harchwilio bydd cysylltu ymchwil, polisi ac ymarfer ym maes cam-ddefnyddio sylweddau a’r gwersi sydd i’w dysgu o brofiad Biwro Abertawe o bolisi ac ymarfer cyfiawnder ieuenctid. Bydd y seminar yn cael ei chyflwyno gan yr Athro Mike Maguire o Brifysgol Morgannwg, Cyfarwyddwr cyntaf Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Carl Sargeant, “Er nad yw cyfiawnder troseddol wedi ei ddatganoli i Gymru, mae gennym ran bwysig i’w chwarae o ran lleihau troseddu a chadw’n cymunedau yn ddiogel. Er enghraifft daw Partneriaethau Diogelwch Cymunedol â’r heddlu a phreswylwyr ar eil gilydd er mwyn cael atebion lleol i faterion lleol.
“Gall cynlluniau ar y cyd megis y Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i lunio ein polisïau ar gyfer delio gyda throseddu, a’n galluogi i ddeall beth sydd, a beth sydd ddim yn gweithio.”
Dywedodd Kate Williams o Brifysgol Aberystwyth, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan: “Mae hon yn fenter newydd gyffrous fydd yn caniatáu academyddion ar draws Cymru i ddarparu ymchwil a gwybodaeth i ymarferwyr a llunwyr polisi i’w galluogi i lunio polisi troseddol a chymdeithasol i Gymru a fydd yn sicrhau ymatebion gwahanol, cynhwysol, cyfiawn a chefnogol i broblemau a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
AU22310