‘Security, Policy-makers and intelligence’

Yr Arglwydd Robertson o Port Ellen

Yr Arglwydd Robertson o Port Ellen

19 Tachwedd 2010

‘Security, Policy-makers and intelligence’

Y Seithfed Ddarlith Flynyddol, a draddodwyd gan

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Robertson o Port Ellen KT GCMG HonFRSE DUniv PC

Y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol

Prifysgol Aberystwyth
17 Tachwedd 2010

Roedd yr Hen Neuadd dan ei sang ddydd Mercher, 17 Tachwedd, i glywed yr Arglwydd Robertson o Port Ellen draddodi Seithfed Ddarlith Flynyddol y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol. 

Mewn araith ddifyr a heriol a oedd yn broc i’r meddwl, cynigiodd yr Arglwydd Robertson sawl cip a myfyrdod ar gudd-wybodaeth a llunio polisïau, wedi’u seilio ar ei brofiad maith yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd Amddiffyn Llafur o 1997 tan 1999 gyntaf, ac wedyn fel Ysgrifennydd Cyffredinol NATO o 1999 tan 2004.  

Dechreuodd y ddarlith drwy ein hatgoffa yn amserol “nad yw cudd-wybodaeth erioed wedi bod yn gymaint o bwnc llosg ag y mae hi ar hyn o bryd”. Pwysleisiodd y ddarlith yr anawsterau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio cudd-wybodaeth i wneud penderfyniadau hollbwysig ar ddiogelwch cenedlaethol. Ni all cudd-wybodaeth gael gwared ar bob ansicrwydd, ac ni ddylid disgwyl hynny. Ac ni all ychwaith godi baich trwm y penderfyniadau oddi ar ysgwyddau arweinwyr gwleidyddol. 

I ategu ei bwyntiau, rhoes yr Arglwydd Robinson ddwy enghraifft o’i brofiad personol o lunio polisi a gwneud penderfyniadau fel rhan o’r llywodraeth: Ymgyrch ‘Desert Fox’ (cyrchau awyr y Cynghreiriaid yn ymosod ar bencadlys a rheolaeth Arfau Dinistr Torfol Irác tua diwedd 1998), a’r ymosodiadau ar dargedau milwrol y Serbiaid yng Nghosofo a Serbia yn 1999. Roedd y ddwy ymgyrch yn golygu ymosodiadau milwrol a’r ddwy, yn y bôn, wedi’u gyrru gan gudd-wybodaeth gyfrinachol.

Dyfynnodd yr Arglwydd Robinson eiriau Syr David Omand, cyn gydlynydd cudd-wybodaeth cenedlaethol Prydain, a ddywedodd, “’Os yw pob gwybodaeth yn rym, mae cudd-wybodaeth gyfrinachol yn rym â nerth tyrbo’”. Roedd y ‘grym nerth tyrbo’ hwn wedi’i reoli gan yr angen i amddiffyn y ffynonellau a ddefnyddiwyd a’r asiantau sy’n darparu’r gudd-wybodaeth gyfrinachol ac mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad gadw’r ddysgl yn wastad rhwng y cyfrifoldeb hwnnw, ac eto, ar yr un pryd, bod mor agored â phosib wrth gyfiawnhau’r camau sy’n cael eu cymryd.

Yn ôl profiad yr Arglwydd Robertson “mae’n rhaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau bwyso a mesur yr asesiadau, ystyried pob caveat, anwybyddu’r siarad mawr, meddwl am y ‘cyhoedd cyffredinol’ a’i ddiogelwch, a dod i benderfyniad. Gwneud rhywbeth neu beidio â gwneud dim.” Ni all arweinwyr gwleidyddol cenedlaethol osgoi baich cyfrifoldeb y penderfyniad.

AU21710