Gwella'r arfordir

Y traeth yn Aberystwyth

Y traeth yn Aberystwyth

09 Tachwedd 2010

Cafodd menter a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth gwerth £3.7 miliwn i wneud yn fawr o'r hyn sydd gan yr arfordir ar ddwy ochr Môr Iwerddon i'w gynnig ei lansio ar y 5ed o Dachwedd.
 
Bydd y fenter yn gwella ansawdd ardaloedd arfordirol Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe yn ogystal â Dulyn, Iwerddon, er mwyn rhoi hwb i dwristiaeth a helpu economïau lleol.
 
Mae'r £2.7 miliwn a ddaeth i law drwy raglen Drawsffiniol Cymru/Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud y fenter yn bosibl, a bydd partneriaid o'r ddwy wlad yn cydweithio i ddiogelu eu traethlinau drwy ddatblygu system newydd i ragweld ansawdd dŵr mewn amser real.

Mae'r system yn golygu rhagweld ansawdd dŵr, yn seiliedig ar brofion a dadansoddi yn ogystal â data arfordirol a maes, ac mae modd ei chysylltu â systemau gwybodaeth electronig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ymdrochwyr am gyflwr y dŵr.

Bydd y system newydd yn helpu pobl i ddeall ffynonellau llygredd yn well ac yn helpu i gynnal a chadw traethau Baner Las Cymru drwy fodloni Cyfarwyddeb newydd yr Undeb Ewropeaidd ar Ddŵr Ymdrochi (2006) sy'n ei gwneud yn ofynnol profi'r dŵr yn y safleoedd hyn.

Meddai'r Athro David Kay o Brifysgol Aberystwyth: "Mae'r dull hwn o reoli mewn amser real yn cynnig manteision o ran iechyd y cyhoedd a'r cyfle i barhau i gydymffurfio â'r safonau dŵr ymdrochi ar lefel uchel, hyd yn oed o ystyried y safonau tynnach newydd.

"Mae hyn yn hanfodol i gadw ein 'Baner Las' ar gyfer traethau trefi gwyliau. I fanteisio ar hyn, mae angen llawer mwy o ddealltwriaeth fanwl o ffynonellau a llwybrau llygredd posibl o ffynonellau ar y tir ac ar hyd yr ardal arfordirol, ac mae angen datblygu dulliau newydd o greu modelau i ragweld ansawdd dŵr mewn amser real sy'n gysylltiedig â systemau gwybodaeth electronig."

Meddai'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson: 

"Drwy wella'r ffordd rydyn ni'n rheoli ein harfordir, byddwn ni nid yn unig yn diogelu ein traethlin ond byddwn ni hefyd yn rhoi hwb i'w werth economaidd drwy annog rhagor o bobl i ymweld ag ef a buddsoddi rhagor o arian.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein traethau'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, a fydd nid yn unig yn sicrhau manteision amgylcheddol ond a fydd hefyd yn sicrhau bod y bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny'n ffynnu'n fwy."
 
Mae'r fenter yn cael ei harwain yng Nghymru gan Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Dulyn yn Iwerddon. Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd Iwerddon, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Wicklow yn Iwerddon a Dŵr Cymru.

Mae lansiad y prosiect yn cyd-daro â digwyddiad i nodi hynt rhaglen Drawsffiniol £61 miliwn Cymru/Iwerddon sy'n helpu prosiectau cydweithredol rhwng partneriaid o'r ddwy wlad.