Wythnos Fenter: 15 – 19 Tachwedd 2010
Tony Orme (Rheolwr Deillio Masnachol) a Rhys Gregory (Myfyriwr Intern Menter)
10 Tachwedd 2010
I gofnodi Wythnos Fenter Fyd-eang, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwng 15 a 19 Tachwedd 2010.
Mae rhaglen Wythnos Fenter Prifysgol Aberystwyth yn gyfle i staff, myfyrwyr a graddedigion ddod i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael drwy Wasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori’r Brifysgol i gychwyn busnesau a mentrau.
“Os oes gennych syniad busnes penodol; diddordeb mewn gwella’ch sgiliau mentro; neu awydd i ddysgu mwy am fod yn hunan gyflogedig drwy wrando ar brofiadau entrepreneuriaid llwyddiannus, bydd yna ddigwyddiad a all fod o ddiddordeb i chi” esboniodd Tony Orme, Rheolwr Deillio Masnachol a chydlynydd Rhwydwaith Menter Crisalis.
I gofnodi dechrau’r wythnos, bydd Clwb Menter Myfyrwyr Crisalis yn croesawu siaradwr gwadd ddydd Llun 15 Tachwedd. Bydd “DK” o Media Snackers yn cynnig dadansoddiad lliwgar i ddarpar entrepreneuriaid o gyfathrebu a marchnata drwy’r “cyfryngau newydd”; sut i ddefnyddio Twitter; Facebook a dulliau amrywiol eraill o gyfathrebu. Mae hyn yn argoeli i fod yn gyflwyniad bywiog a difyr ac mae croeso i bawb…staff, graddedigion a myfyrwyr.
Ar ddydd Mawrth 16 Tachwedd bydd Rhwydwaith Menter Crisalis yn lansio cystadleuaeth ‘£100 am 100 gair’. A oes gennych syniad am gynnyrch neu wasanaeth newydd a allai ddatblygu’n fusnes hyfyw? Bydd myfyrwyr sy’n cyflwyno’u syniadau mewn 100 o eiriau neu lai yn cael cyfle i ennill gwobr o £100. Mae rheolau’r gystadleuaeth a ffurflen gais ar gael ar-lein.
Ar ddydd Mercher 17 Tachwedd, gwahoddir myfyrwyr i edrych ymlaen a dysgu mwy am y cyfleoedd menter sydd i ddod. A oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Fyfyriwr Lleoliad Gwaith Crisalis yn 2011 i gynrychioli Prifysgol Aberystwyth yng nghystadleuaeth menter genedlaethol FLUX, neu i fynychu Wythnos Cychwyn Busnes yn Ionawr neu Fehefin? Os felly, cofrestrwch ar gyfer digwyddiad briffio Clwb Menter Myfyrwyr Crisalis.
Beth am ddechrau’r diwrnod ddydd Iau 18 Tachwedd drwy fwynhau brechdan cig moch yn nigwyddiad rhwydweithio Clwb Menter Myfyrwyr Crisalis? Ymunwch ag aelodau o dîm menter y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori i hogi’ch sgiliau rhwydweithio, ac i gwrdd â phobl eraill sy’n ymddiddori mewn ‘Mentergarwch’ dros frecwast ysgafn.
I unigolion sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes eu hunain, bydd Sesiwn Rhagflas Cymorth Cychwyn Busnesau Graddedigion (GSS), a gynhelir ddydd Gwener 19 Tachwedd, yn cynnig trosolwg o’r materion a’r prosesau sy’n gysylltiedig â chychwyn menter newydd.
Trwy gydol yr wythnos bydd gan Rwydwaith Menter Crisalis stondin gwybodaeth yn Undeb y Myfyrwyr. Galwch heibio i gael gwybodaeth ychwanegol ar ddigwyddiadau’r wythnos, i gwrdd â’n Myfyrwyr Lleoliad Gwaith Crisalis, ac i roi cynnig ar ein ‘Catalydd Menter’ - adnodd newydd sbon i ddarganfod a oes gennych yr hyn sydd ei angen i fod yn entrepreneur.
Fel rhan o Wythnos Fenter, bydd y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori hefyd yn lansio canllaw i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am Eiddo Deallusol a Masnacheiddio i staff academaidd Prifysgol Aberystwyth.
Am fwy o wybodaeth am raglen yr wythnos, neu’r gwasanaethau menter sydd ar gael i staff a myfyrwyr, ewch i: www.aber.ac.uk/enterpriseweek