Darlith ASE
Dr Kay Swinburne
22 Hydref 2010
Bydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Dr Kay Swinburne yn traddodi darlith wadd ar y pwnc “Evolving Financial Architecture and the Impact of Financial Crisis on the EU” ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun 1af Tachwedd am 2.00 y prynhawn.
Gwahoddwyd Dr Swinburne i ddarlithio gan Ysgol Reolaeth a Busnes Aberystwyth a bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi ym mhrif ddarlithfa Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol.
Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llandysul ac aeth ymlaen i astudio Biocemeg a Microbioleg yng Ngholeg y Brenin, Llundain, cyn cael PhD mewn ymchwil feddygol a MBA o Brifysgol Surrey. Etholwyd Kay yn ASE Ceidwadol dros Gymru ym Mehefin 2009.
Ar hyn o bryd mae Dr Swinburne yn Gydlynydd Grŵp y Ceidwadwyr a’r Diwygwyr Ewropeaidd (ECR) ar y Pwyllgor Economaidd ac Ariannol yn Senedd Ewrop (ECON); a Chydlynydd y Grŵp ECR ar Bwyllgor Arbennig yr Argyfwng Ariannol, Economaidd a Chymdeithasol (CRIS). Mae hefyd yn aelod o Gynulliad Seneddol EuroMed (DMED).
Dywedodd Dr Sangeeta Khorana o Ysgol Reolaeth a Busnes Aberystwyth:
“Rydym yn hynod falch o gael croesawu Dr Swinburne. Mae’r ymweliad yn gyfle gwych i gael clywed ei safbwynt ar farchnadoedd arian y byd wrth i’r Undeb Ewropeaidd fynd i’r afael â chanlyniadau argyfwng ariannol rhyngwladol byd eang. Daw ei sgwrs ar yr adeg pan fod trafodaethau am yr angen i gael strategaeth fyd-eang, drwy greu rhwydi diogelwch ariannol a goruchwyliaeth reoli o sefydliadau ariannol, ar agenda Uwchgynhadledd yr G20 yn Seoul mis nesa.”
“Mae Dr Swinburne wedi gwneud cyfraniad aruthrol i Gymru drwy ei hymdrechion diflino i greu economi Gymreig gref a sefydlog drwy gymell a chynorthwyo masnach a busnes, ac yn arbennig cwmnïoedd bach a chanolig. Mae hi wedi gwneud ymdrechion anferthol i hybu adfywiad economaidd drwy hyrwyddo a meithrin bywiogrwydd economaidd drwy fuddsoddiad cynaliadwy a gwelliannau i gymorth gwledig," ychwanegodd.
AU19810