Dechrau adeiladu
Llun artis o'r adeilad newydd ar Benglais.
05 Hydref 2010
Mae’r gwaith o adeiladu adnoddau dysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf ar gyfer Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi dechrau.
Ar gampws Penglais mae’r seiliau yn cael eu gosod ar gyfer adeilad dysgu ac ymchwil dau lawr ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd 2011.
Wedi ei gysylltu ag adeiladau Edward Llwyd a Cledwyn ar y llawr cyntaf, mae disgwyl i’r adeilad gyrraedd safon BREEAM Excellent (Dull Asesu Amgylcheddol BRE) a
bydd yn cael ei wresogi drwy system ddŵr tanddaearol a fydd yn tynnu gwres o dan gae Pantycelyn.
Mae’r coed deri aeddfed sydd ar y safle yn aros.
Yng Ngogerddan mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu canolfan Ffenomeg, a fydd yn cynnwys y tŷ gwydr cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Gyfunol, i ddechrau ym mis Tachwedd.
Pan fydd wedi ei gwblhau, bydd yr adnodd newydd yn gam sylweddol ymlaen i IBERS gan y bydd gwyddonwyr yn gallu casglu data o nifer fawr o blanhigion mewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd.
Yn ogystal, bydd yn ganolbwynt i Sefydliad Rhyngwladol newydd mewn Bridio Planhigion a fydd yn cynnwys labordy a llety ar gyfer academyddion sydd yn ymweld, a chanolfan fenter ar gyfer y diwydiannau amaethyddol, bwyd, deunydd bioadnewyddol a thirol.
Mae disgwyl hefyd i’r adeilad hwn, sydd yn ymestyn dros 2000 metr sgwâr, gyrraedd safon BREEAM Excellent, a bydd yn cael ei wresogi gan foiler biomas.
Gyda’i gilydd mae’r ddau gynllun yn cynrychioli buddsoddiad o £25m ac mae’r cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol (BBSRC).
Mae manylion pellach am y ddau brosiect, gan gynnwys web cam o’r ddwy safle, ar gael ar y wefan www.ibers-projects.co.uk.
AU16610