ProSafeBeef
04 Hydref 2010
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gartref i gynhadledd ryngwladol bwysig sy’n anelu at wella ansawdd a diogelwch cig eidion. Ac mae cyfle i ffermwyr Cymru gymryd rhan.
Bydd y digwyddiad, sy’n cynnwys arbenigwyr o fwy na 40 o sefydliadau ymchwil a diwydiannol amlwg o bob cornel o’r byd, yn cael ei gynnal yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae disgwyl 100 o gynrychiolwyr ar gyfer y trafodaethau a fydd yn cael eu cynnal ar y 6ed a’r 7fed o Hydref.
Ar y prynhawn dydd Mercher (6ed Hydref), bydd y gynhadledd yn cydweithio gyda’r Rhaglen Ddatblygu Cig Coch sydd dan adain Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales ar ran Cyswllt Ffermio.
Mae gwahoddiad i ffermwyr ddod i arddangosfeydd ymarferol ar fferm IBERS yng Ngogerddan. Bydd y rheiny’n mynd i’r afael â rhai o’r prif bynciau sy’n effeithio ar ansawdd a diogelwch cig eidion, gan gynnwys:
• Ffyrdd o gynyddu gwerth economaidd y carcas trwy dechnegau cigydd newydd ar gyfer trin darnau “llai gwerthfawr” o gig.
• Ffactorau ar y fferm sy’n effeithio ar ddiogelwch cig eidion a chynnyrch cig eidion, gan gynnwys arddangosfa o’r dechnoleg ddelweddu ddiweddaraf i ddangos unrhyw fudreddi ar y carcas yn y lladd-dy.
• Gwella ansawdd bwyta cig eidion, gan roi gwell profiad bwyta i’r defnyddiwr, gan gynnwys rhan yn ymwneud â defnyddio Safonau Cig Awstralia.
“Mae hwn yn gyfle gwych i gynhyrchwyr a phroseswyr drafod y syniadau diweddara’ o ran ansawdd a diogelwch cig eidion gyda gweithwyr profiadol yn y maes o bob rhan o’r byd,” meddai cynhaliwr y digwyddiad, yr Athro Nigel Scollan. Ef yw Arweinydd Thema Gwyddorau Anifeiliaid a Microbiaidd yn IBERS, ac arbenigwr ar ddatblygu systemau cynhyrchu i wella ansawdd cig eidion.
Bydd pedwar o wyddonwyr IBERS ei hun yn cyflwyno papurau ac anerchiadau pwysig yn y gynhadledd, sy’n nodi rhan IBERS tros fwy na thair blynedd mewn cynllun ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd o’r enw ProSafe Beef.
Bydd papurau eraill yn cael eu cyflwyno gan wyddonwyr amlwg o wahanol rannau’r Undeb Ewropeaidd ar bynciau’n amrywio o ofynion cwsmeriaid a chynhyrchion newydd i wella hylendid ar ffermydd, dulliau diogelu bwyd mewn lladd-dai a chynhyrchu cig eidion sydd yn fwy tyner.
“Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Aberystwyth yn gartref i gynhadledd uchel ei bri fel hon,” meddai Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Noel Lloyd, a fydd yn cyflwyno un o’r anerchiadau agoriadol.
“Mae hyn yn brawf o’r statws sydd gan IBERS yn un o’r canolfannau ymchwil mwyaf arloesol yn y byd ym maes gwyddoniaeth planhigion ac anifeiliaid,” meddai’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.
Bydd cynrychiolwyr rhyngwladol hefyd yn cael blas ar ddiwylliant Cymraeg trwy’r delynores leol, Sian Price, Côr ABC a thwmpath dawns traddodiadol gydag Erwyd Howells yn galw.
AU17910