Pinta’n hwylio eto
Pinta yn fuan wedi lansio.
13 Medi 2010
Mae’r ymgais gyntaf gan gwch hwylio roboteg i groesi Môr yr Iwerydd wedi dechrau.
Cafodd Pinta, cwch hwylio 3 metr sydd wedi ei ddatblygu gan wyddonwyr yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, ei lansio oddi ar arfordir Sir Kerry yn Iwerddon ar ddydd Sadwrn 11eg o Fedi 2010.
Creadigaeth y gwyddonydd robotiaid a’r hwyliwr brwd, Dr Mark Neal yw Pinta. Mae’n seiliedig ar fath poblogaidd i gwch hwylio, y Topper Taz, ac wedi ei enwi ar ôl un o longau Christopher Columbus ar ei daith gyntaf ar draws yn Iwerydd yn 1492.
Er hyn, ychydig sydd yn gyffredin rhwng y Pinta gyfoes a’i rhagflaenydd enwog gan ei bod yn cynnwys cyfrifiadur Gumstix, paneli solar, o ddeutu 30 kg o fatris, winsh hwyl, a chilbren sydd yn pwyso 25 kg.
Mae’r lansiad yn rhan o ‘The Microtransat Challenge’ http://www.microtransat.org/ sydd â nod o hybu datblygiad llongau hwylio roboteg drwy herio timoedd i adeiladu cwch a sustem reoli sydd yn hollol ymreolus ac sydd yn gallu croesi Môr yr Iwerydd gan ddefnyddio ynni’r gwynt yn unig.
Yr her yw bod y cyntaf i groesi’r llinell derfyn 60 gradd i’r Gorllewin, rhwng 10 a 25 gradd i’r gogledd, ychydig i’r dwyrain o ynys Martinique yn y Caribî.
Am 11 y bore heddiw, 13eg Medi 2010, roedd Pinta, sydd yn trosglwyddo data bob awr drwy drosglwyddydd lloeren, yn hwylio tua 20 milltir i’r gorllewin-gogledd-orllewin o Mizen Head.
Er hyn mae Dr Neal ychydig yn besimistaidd am ragolygon Pinta gan fod y tywydd oddi ar arfordir Iwerddon yn dirywio yn gyflym. “Mae’n ymddangos na fydd Pinta yn goroesi am fwy nag ychydig ddyddiau ond mae ein gobeithion yn uchel a’n ysbryd yn dda! Mae Pinta eisoes wedi goroesi bron i 48 awr yn yr amgylchiadau gwaethaf mae unrhyw gwch hwylio roboteg wedi ei brofi (tonnau 3m a gwynt hyd at 27 knot),” dywedodd.
“Ar hyn y bryd mae’n ymddangos taw hwn fydd y llongddrylliad cyntaf yn y byd o gwch hwylio roboteg!”, ychwanegodd.
Mae modd dilyn hyn Pinta ar y wefan http://www.microtransat.org/tracking.php.
Os bydd Pinta yn goroesi'r diwrnodau stormus nesaf ac yn llwyddo i ddianc rhag crafangau arfordir Iwerddon diwedd y daith fydd y Caribî ac fe ddylai’r daith gymryd o leiaf 3 mis.
AU16910