The Persians
The Persians (Llun: Toby Farrow)
06 Medi 2010
Staff Aber yn chwarae rhan flaenllaw yng nghynhyrchiad National Theatre Wales o The Persians gan Aeschlyus
Bu tri aelod o’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, Mike Pearson, Simon Banham a Mike Brookes yn chwarae rhannau allweddol mewn perfformiad eithriadol o The Persians a lwyfannwyd mewn pentref hyfforddi milwrol ar Fynydd Epynt ym Mannau Brycheiniog ym mis Awst.
Y cynhyrchiad hwn, a gyfarwyddwyd gan Mike Pearson ac a gynlluniwyd gan Simon Banham a Mike Brookes, oedd prif sioe tymor cyntaf National Theatre Wales o waith newydd, ac fe ddatblygodd yn sgil gwaith yr Athro Pearson mewn prosiect a gyllidwyd â grant Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn ymwneud â Thirwedd ac Amgylchedd yn 2006-8 oedd yn defnyddio’r safle ar yr Epynt fel astudiaeth achos.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd ymateb theatrig Pearson i’r safle yn defnyddio gwaith Aeschylus, y sgript hynaf i’w gofnodi yn theatr y gorllewin, i greu plethiad cymhleth o ystyr oedd yn chwalu’r gwahaniaethau syml rhwng gorffennol a phresennol a’r fan hyn a’r fan draw. Pentref hyfforddi milwrol yw Cilieni, safle’r gwaith, ac nid oes caniatâd i bobl gyffredin fod yno fel rheol. Fel y dywedodd Charles Spence mewn adolygiad yn y Daily Telegraph, roedd y lleoliad hwn oedd yn safle brawychus a ddefnyddiwyd i hyfforddi milwyr i ymladd mewn trefi, yn gaffaeliad rhyfeddol i’r cwmni. Fodd bynnag, er gwaethaf adleisiau’r lleoliad, ni ddefnyddiwyd y ddrama i wneud sylw mewn modd amlwg ar ryfeloedd Irac ac Afghanistan. Yn wir, gellir gweld y fersiwn hwn o The Persians fel dilyniant i brosiectau Pearson gyda chwmni drama Brith Gof yn y 1980au a’r 1990au, ac yn fwy diweddar, ei waith gyda Mike Brookes. Yn y gwaith hwnnw, yn yr hyn y gellid ei alw’n ‘archaeoleg dinistr’ mae Pearson wedi bod yn mesur tymheredd yr oes yng Nghymru. Wrth i gymunedau Cymru wynebu, unwaith eto, gwirioneddau toriadau’r llywodraeth, gweledigaeth lom o genedligrwydd a geir yn The Persians.
Ond y llymder hwn yw’r union beth sydd wedi sicrhau clod beirniadol unfrydol i The Persians yn y wasg Brydeinig. Mae cwmni National Theatre of Wales i’w ganmol am ei ymagwedd arloesol at theatr ar y safle, a’i weledigaeth wrth gydweithio ag ymarferwyr gwreiddiol y tu allan i’r brif ffrwd.
Adolygiad gan Dr Carl Lavery.
Rhai o'r adolygiadau sydd wedi eu cyhoeddu.
The Daily Telegraph 13 Awst
The Guardian 14 Awst
The Guardian 16 Awst
AU158/10