Lansio ‘ap’ iaith Cymraeg newydd i’r iPhone, yr iPad a’r iPod touch
Neil Taylor (chwith) a'r Athro Chris Price ar adeg lansio 'ap' y Cwrs Mynediad yn yr Eisteddfod Genedlaethol
04 Awst 2010
Cafodd ‘ap’ newydd ar gyfer yr iPhone, yr iPad a’r iPod touch, sydd yn cynorthwyo pobl i ddysgu Cymraeg ei lansio ym Maes D ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher 4ydd Awst.
Mae’r Athro Chris Price a Neil Taylor, y ddau yn ddysgwyr sydd yn gweithio yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio gyda CBAC (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru) i ddatblygu ‘ap’ newydd ar gyfer pobl sydd yn dysgu Cymraeg. Mae’r rhaglen newydd yn cynnig cefnogaeth i oedolion sydd yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg drwy ddarparu ‘ap’ o’r llyfr Cwrs Mynediad.
Dywedodd yr Athro Chris Price: “Llynedd yn yr Eisteddfod lansiais Welsh Lessons, llawlyfr brawddegau ar gyfer yr iPhone sydd yn cynnwys brawddegau syml a gwersi ar gyfer pobl sydd yn dysgu’r Gymraeg. Doeddwn i ddim yn disgwyl i lawer o bobl ddangos diddordeb ynddo ac yn meddwl taw ychydig gannoedd o gopïau yn unig a fyddai’n gwerthu. Ond mae brwdfrydedd pobl am ddysgu’r Gymraeg drwy ddefnyddio technoleg newydd wedi fy synnu ac mae Welsh Lessons wedi gwerthu dros 8000 o gopïau ers haf llynedd.”
Ers lansio’r ap mae’r Athro Price wedi derbyn canmoliaeth o bob cwr o’r byd. Ysgrifennodd gwraig o America sydd â theulu Cymreig ato i ddweud ei bod yn dysgu Cymraeg am y tro cyntaf diolch i’w ‘ap’. Bu gwr o Wlad Groeg mewn cysylltiad ag e yn gofyn iddo ychwanegu “rwy’n dy garu di” at y brawddegau allweddol er mwyn iddo allu datgan ei deimladau i’w gariad o Gymru. Cysylltodd rhiant â’r Athro Price hefyd i esbonio wrtho sut y mae ef a’i blentyn yn mwynhau eistedd wrth fwrdd y gegin i ddysgu Cymraeg gyda’i gilydd.
Esboniodd yr Athro Price, “Oherwydd llwyddiant Welsh Lessons, bum yn siarad gyda CBAC am ddarparu deunydd Cwrs Mynediad ar ffurfiau cyfrifiadurol. O ganlyniad rydym wedi treulio rhan o’r flwyddyn hon yn datblygu app ar gyfer yr iPhone, yr iPad a’r iPod touch, sydd yn gydymaith i’r dysgwr sydd yn dilyn Cwrs Mynediad ar hyd y daith dair blynedd o ddefnyddio’r llyfr. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu’r llyfr ac wedi ei rhannu i unedau, â phob uned yn cynnwys patrymau, ymarferion, geirfa, deialogau a gramadeg.”
Nid cymryd lle Cwrs Mynediad yw bwriad yr ‘app’ ond cynorthwyo dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg wrth symud o un lle i’r llall. Bydd ar gael ar iTunes ar gyfer dechrau’r tymor newydd.