Gwyddonwyr yn croesawu rhwydwaith uwch-gyfrifiadureg
Yr Athro Richard Lucas
12 Gorffennaf 2010
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi croesawu sefydlu Cyfrifiadureg Perfformiad Uchel Cymru (HPC Cymru), cynllun uchelgeisiol £40m i ddatblygu rhwydwaith uwch-gyfrifiadureg yng Nghymru.
Yr Athro Richard Lucas yw arweinydd Uned Arsylwi’r Ddaear yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol. Mae’r Uned yn defnyddio delweddau a dynnwyd o awyrennau a lloerennau er mwyn deall a mesur sut mae cynefinoedd, gan gynnwys rhai yng Nghymru, yn ymateb i newidiadau sydd yn gysylltiedig gyda gweithgareddau dynol a digwyddiadau naturiol.
Yn ogystal, mae’r Athro Lucas yn gweithio’n agos gyda chwmni o Aberystwyth, Environment Systems Ltd, sydd yn darparu gwasanaeth ymgynghorol a gwybodaeth amgylcheddol a daearyddol. Mae’r cwmni yn cyflogi nifer cynyddol o arbenigwyr mewn prosesu, dadansoddiad a dehongliad wedi ei awtomeiddio o ddelweddau a dynnwyd o loerennau ac awyrennau; gan droi’r data yn wybodaeth a chynnig gwell dealltwriaeth o’n hamgylchedd.
“Mae nifer o’r setiau data yn ein hymchwil yn fawr iawn”, dywedodd. “Mae’r data o synwyryddion optegol a radar o’r gofod yr ydym yn ei ddefnyddio yn cynnwys gwledydd cyfan (e.e. Awstralia a Chile) ac mae’r gwaith o’i gasglu yn parhau. Mae’r setiau data cyfres amser yma yn cynnig mewnwelediad unigryw i gyflwr hanesyddol a phresennol tirweddau ac yn galluogi i ddeall, adeiladu modelau a rhagweld newidiadau all ddigwydd yn y dyfodol.”
“Mae maint a chost prosesu’r data hwn yn enfawr. Bydd HPC yn ein galluogi i ddefnyddio’r data sydd eisoes ar gael a’r hyn sydd newydd ei gasglu ac yn ein gwneud yn fwy hyderus o safbwynt ymwneud â phrosiectau mwy o faint a fydd o fudd i ystod eang o ddefnyddwyr.”
“Gyda’r hyn y mae HPC yn ei gynnig mae gennym ni'r gallu i brosesu a dadansoddi’r data yma er mwyn ymateb i faterion sydd yn ymwneud gyda dylanwad dynol ar dirweddau a’r newidiadau sydd yn gysylltiedig gydag amrywiadau yn yr hinsawdd.”
Mae Cyfrifiadureg Perfformiad Uchel Cymru (HPC Cymru) yn brosiect deng mlynedd gwerth £40 miliwn i roi mynediad i fusnesau a phrifysgolion yng Nghymru sy'n ymwneud ag ymchwil fasnachol at y dechnoleg gyfrifiadureg fwyaf blaengar a datblygedig sydd ar gael.
Bydd HPC Cymru yn buddsoddi mewn technoleg, seilwaith a chyfleusterau cyfrifiadureg o'r radd flaenaf ar gyfer Cymru gyfan, yn ogystal â datblygu sgiliau a darparu hyfforddiant lefel uchel a rhoi gwasanaethau wedi'u teilwra i fusnesau.
Bydd y dechnoleg hon yn cael effaith fawr ar yr economi, ar allu busnesau i gystadlu, ar arloesi, ar ymchwil a datblygu gwerth uchel mewn sefydliadau addysg uwch ac ar ddatblygu sgiliau. Y disgwyl yw creu mwy na 400 o swyddi mewn sectorau diwydiannol allweddol.
Diolch i gymorth gwerth £24 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys arian drwy raglenni Cydgyfeirio'r UE a £10 miliwn gan Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau'r DU, bydd HPC Cymru yn darparu adnoddau a rhwydwaith uwch-gyfrifiadureg i Gymru ar raddfa ehangach nag yn unrhyw ran arall o'r DU neu Ewrop.
Gall technoleg gyfrifiadureg perfformiad uchel ddadansoddi ac ymdopi â symiau anferthol o ddata yn gyflym iawn drwy ddefnyddio dulliau delweddu ac efelychu.
Mae modd gwneud tasgau sy'n gallu cymryd misoedd i gyfrifiaduron arferol mewn diwrnodau neu funudau hyd yn oed. Fe'i defnyddir i fodelu a datrys problemau cymhleth iawn mewn ystod o sectorau gwerthfawr iawn.
Mae'r defnydd o'r dechnoleg yn amrywio, ac mae enghreifftiau'n cynnwys modelau ailffurfio wynebau, graffigwaith byw, cyfrifiadau hylifau deinamig, ymchwil i ynni niwclear, ymchwiliadau petrolewm, efelychu damweiniau car, llif yr aer dros adenydd awyrennau, cloddio am ddata a storio a delweddu.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, y byddai HPC Cymru yn cyfrannu'n fawr at gyflwyno Adnewyddu'r Economi: Cyfeiriad Newydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
“Un o brif amcanion Rhaglen Adnewyddu'r Economi yw addasu ein cyllideb £240 miliwn ar gyfer datblygu'r economi i sicrhau ei bod yn canolbwyntio'n fwy ar ddatblygu'r sgiliau priodol i'n gweithlu a hybu ymchwil a datblygiad o safon fyd-eang – sy'n adlewyrchu amcanion HPC Cymru.”
"Mae graddfa'r prosiect yn uchelgeisiol a bydd yn cyrraedd pob cwr o Gymru," meddai Lesley Griffiths, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau.
"Bydd yn cyflymu'r broses o droi cynnyrch arloesol ymchwil prifysgolion Cymru'n gynnyrch sy'n barod ar gyfer y farchnad fasnachol. Bydd hefyd yn cael effaith fawr ar ddatblygiadau a hyfforddiant sgiliau lefel uchel, ac yn galluogi Cymru i gystadlu'n rhyngwladol ym myd ymchwil cyfrifiadurol.
"Mae natur ddosranedig a graddfa'r prosiect, a'r ffaith ei fod ar agor i fusnesau, yn golygu bod ei raddfa, ei natur a'i uchelgais yn unigryw."
Bydd y cyfleusterau cyfrifiadureg blaengar ar gael i fusnesau eu defnyddio ar gyfer gwaith annibynnol neu ar gyfer cydweithio gydag ysgolheigion, a byddant yn creu enw i Gymru fel canolbwynt rhyngwladol allweddol i ymchwil gyfrifiadurol arbenigol.
Ariennir y prosiect fel a ganlyn:
• £19 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy WEFO.
• £10 miliwn gan Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau y DU.
• £4 miliwn gan sefydliadau sy'n cydweithio.
• £5 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru/CCAUC
• £2 miliwn gan y sector preifat a thrwy ymchwil
Bydd y buddsoddiad gwerth £40 miliwn ar gyfer datblygu seilwaith, offer, ymchwil i feddalwedd, a chostau rheoli a gweithredu dros bum mlynedd gyntaf y prosiect. Erbyn 2015 bydd HPC yn hunangynhaliol ac yn gynaliadwy.
Bydd HPC Cymru yn rhoi hwb i arloesedd ac ymchwil a datblygu, yn rhoi hwb i fusnes, yn datblygu sgiliau arbenigol ac yn denu buddsoddiad i'r prosiect.
Mae tair elfen i HPC Cymru: buddsoddi mewn offer cyfrifiadurol perfformiad uchel, seilwaith a rhwydweithiau ddosbarthu Cymru gyfan; academi hyfforddi i ddatblygu sgiliau cyfrifiadurol perfformiad uchel, a darparu gwasanaethau technegol lefel uchel i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac economaidd.
Bydd prif ganolfannau cyfrifiadurol HPC Cymru yng Nghaerdydd ac Aberystwyth a bydd is-ganolfannau cysylltiedig ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg, Prifysgolion Cynghrair Prifysgol Cymru a chanolfannau arloesedd busnes Technium o amgylch Cymru.
Rheolir HPC Cymru gan sefydliad elusennol dielw a sefydlwyd gan Grŵp Prifysgolion Dydd Gŵyl Dewi a Chynghrair Prifysgol Cymru.
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, cadeirydd Addysg Uwch Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Dyma newyddion gwych i Gymru, o safbwynt gallu ymchwilio a'r ffyrdd y gall y sector Addysg Uwch gydweithredu i roi cyfleoedd a hyfforddiant i fusnesau.
"Mae gan brifysgolion gyfraniadau hanfodol i'w gwneud yn lleol, ar draws Cymru a'r DU ac yn rhyngwladol, a bydd y gwelliannau a gynigir gan y prosiect hwn yn golygu ein bod yn cyfrannu hyd yn oed fwy at ddatblygu'r economi.
"Mae HPC Cymru yn enghraifft ardderchog hefyd o gydweithredu ymysg sefydliadau addysg yng Nghymru yn i gyrraedd nod cyffredin. Ymrwymiad llawer o unigolion sy'n gweithio yn y sector addysg uwch ac yn Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi'i gwneud yn bosibl i ddarparu'r prosiect hwn. Mae'r gwaith tîm a'r cydweithredu wedi bod yn rhagorol ac mae'n arwydd da ar gyfer y dyfodol."
Meddai'r Athro Ian Cluckie, Darpar Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe dros Wyddoniaeth a Pheirianneg: "Mae Prifysgol Abertawe yn falch o weithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd a'r sefydliadau addysg uwch eraill ar gyfer y datblygiad Cymru gyfan hwn.
"Bydd yn sicrhau bod ymchwilwyr, myfyrwyr a busnesau yn cael defnyddio'r cyfrifiaduron perfformiad uchel o'r radd flaenaf sydd eu hangen i wneud yr ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n sbarduno'r economi wybodaeth ac yn ategu agenda Cymru mewn sectorau hanfodol fel iechyd, gwyddoniaeth, peirianneg ac uwch-weithgynhyrchu.
"Datblygiad Cymru gyfan yw HPC Cymru ac mae'n enghraifft o gydweithredu ar draws y sector addysg uwch."
Mae mwy na 100 o brosiectau arloesol a chydweithredol rhwng prifysgolion a diwydiannau, a allai elwa ar dechnoleg HPC, eisoes wedi'u pennu.
Mae'r rhain yn amrywio o fodelu ac efelychu mewnblaniadau meddygol i ddadansoddi delweddau lloerennau i fonitro newidiadau yn yr amgylchedd. Ar flaen y gad bydd prosiectau sy'n effeithio ar sectorau diwydiannol pwysicaf Llywodraeth y Cynulliad.
Ychwanegodd Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog: "Mae gan HPC Cymru y potensial i sicrhau newid gwirioneddol. Bydd yn cael effaith sylweddol ar yr economi, ar gynyddu ymchwil a datblygu, ar hybu arloesi a'r gallu i gystadlu, ac ar ddatblygu sgiliau lefel uchel."
au12410