Cyhoeddi rhaglen Musicfest 2010
Y pianydd Tom Poster
24 Mehefin 2010
Mae’r Ŵyl yn dechrau ar ddydd Sadwrn 24ain Gorffennaf a daw i ben ar ddydd Sadwrn 31ain Gorffennaf. O fewn yr wythnos honno cynhelir 24 o gyngherddau, 6 dosbarth meistr agored, 15 o ddigwyddiadau’n rhad ac am ddim a 5 cyngerdd yn cyflwyno doniau myfyrwyr yr Ysgol Haf. Felly gellir edrych ymlaen at wythnos brysur!
Mae Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl David Campbell wedi trefnu i nifer o gerddorion talentog ddod at ei gilydd i berfformio amrediad gwych o waith. Maent yn cynnwys Guy Johnston (soddgrwth), Tom Poster (piano), y Pedwarawd Sacconi, y delynores Eleanor Turner, y Triawd Bardolino o Prague, Cerddorfa Orion dan arweiniad Toby Purser a’r arbenigwyr mewn cerddoriaeth gynnar, The Band of Instruments.
Ceir rhaglen brysur o gyngherddau bob dydd - datganiadau amser cinio, dosbarthiadau meistr yn y prynhawn, cyfres o ‘gerddoriaeth stiwdio’ am ddim yn gynnar mis nos a cherddoriaeth am ddim yn y cyntedd cyn prif gyngerdd yr hwyr. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
• Guy Johnston yn perfformio Consierto Soddgrwth Haydn yn C Fwyaf gyda Cherddorfa Orion, ac yn ymuno â’r pianydd Tom Poster a’r feiolinydd Pavel Fischer ar gyfer Consierto Triphlyg Beethoven. Yr Orion yw un o gerddorfeydd mwyaf newydd a chyffrous Llundain, wedi’i ffurfio tair blynedd yn ôl gan ei chyfarwyddwr cerddorol Toby Purser ar gyfer cyngerdd gala yn y Neuadd Ŵyl Frenhinol. Ers y cyngerdd cyntaf hwnnw, yn perfformio gyda’r feiolinydd Nicola Benedetti a’r mezzo-soprano Ann Murray, mae’r gerddorfa wedi ennill enw da fel un o gerddorfeydd ifanc mwyaf cyffrous, deinamig a thalentog Llundain, gyda’r chwaraewyr yn cael eu dewis o fyfyrwyr a graddedigion gorau’r colegau cerdd.
• Noson ysblennydd o gerddoriaeth yng nghwmni’r Band of Instruments a fydd yn perfformio gwaith gan Purcell, Biber a Scarlatti yn eglwys hyfryd ac hanesyddol Llanbadarn. Sefydlwyd y Band of Instruments ym 1995 ac mae’n ensemble amryddawn o gerddorion sy’n ymroddedig i chwarae offerynnau’n deillio o nifer o wahanol gyfnodau; mae eu gwaith yn ymestyn o’r ail ganrif ar bymtheg i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a thu hwnt.
• Ar gyfer aelodau iau’r teulu ceir Tiddly Prom, sioe ryngweithiol arbennig ar gyfer plant o dan 5 oed a’u teuluoedd.
• Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Edward Gregson gyda’r unawdydd trwmped Gareth Small.
• Cerddoriaeth gan Schubert, Dvorak, Milhaud, Bach, Ireland, Britten, Mozart, Beethoven, Metcalf, Haydn, Purcell, Biber, Scarlatti, Rossini, Mendelssohn, PIerne, Finzi, Ravel, Janacek, Walton, Kodaly a mwy.
Ochr yn ochr â’r rhaglen gyngherddau mae’r holl artistiaid perfformio yn brysur yn dysgu ac yn cyflwyno dosbarthiadau meistr i’r 100+ o fyfyrwyr sy’n teithio yma o bob rhan o’r byd ar gyfer Ysgol Haf Musicfest. Mae’r cyrsiau eleni yn cynnwys hyfforddiant arbenigol ar gyfer cerddorion llinynnol a chwyth, cyfansoddwyr, arweinwyr, seicolegwyr cerdd, telynorion a sgiliau llais.
Mae rhaglen fanwl o’r cyngherddau ar gael a gellir archebu ‘nawr - ffoniwch 01970 62 32 32 neu archebwch ar-lein www.aber.ac.uk/artscentre / www.abermusicfest.org. Mae ‘na rai lefydd ar gael yn yr Ysgol Haf - cysylltwch â Musicfest@aber.ac.uk am ragor o fanylion.