Cyfraniad economaidd Canolfan y Celfyddydau
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
01 Mehefin 2010
Mae adroddiad newydd yn dangos bod Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cyfrannu £10.65 miliwn bob blwyddyn tuag at yr economi Cymreig gyda chynnydd o 50% dros bum mlynedd. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal 175 o swyddi, sy’n golygu ei bod yn ddylanwad blaenllaw yn sector y diwydiannau creadigol.
Bu Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y brif ganolfan gelf yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy’n adran o Brifysgol Aberystwyth, yn comisiynu cwmni Econactive o Gaerdydd i archwilio dylanwad economaidd y Ganolfan er mwyn diweddaru’r astudiaeth wreiddiol a baratowyd ganddynt yn 2004. Mae’r adroddiad yn dangos cynnydd sylweddol yn effaith economaidd y Ganolfan o £5.5miliwn i £10.65 miliwn sydd bellach yn cynnwys y ‘Clwstwr Creadigol’ newydd o unedau busnes a stiwdios ar gyfer y diwydiant diwylliannol a busnesau celf. Bu’r gyflogaeth a gefnogwyd gan y Ganolfan yn ystod y cyfnod yn cynyddu bron 40%.
Dywed yr adroddiad; “Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Canolfannau megis Aberystwyth wrth ddarparu gweithgareddau dyfeisgar er mwyn sicrhau datblygiad yn y sector. Yn ogystal â chefnogi’r sector creadigol, mae gweithgaredd y Ganolfan yn cyfrannu’n gryf tuag at dwristiaeth ac addysg yn y rhanbarth. Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn anghyffredin yng Nghymru gan ei bod yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid yn ogystal â’r ffaith ei bod yn cynnig rhaglen artistig gref. Mae nifer uchel yr ymwelwyr â’r Ganolfan yn argoeli’n dda o safbwynt yr arian a fuddsoddir ynddi. Er enghraifft, mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn derbyn tua £25m o arian cyhoeddus ac yn derbyn 1.5m o ymwelwyr; £15 yr ymwelydd. Yn ystod ei blwyddyn ariannol ddiwethaf derbyniodd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth nawdd o’r sector cyhoeddus gwerth £1m a denodd 700,000 o ymwelwyr. Mae hyn yn cynrychioli tua £1.40 yr ymwelydd, sy’n dangos bod y noddwyr cyhoeddus yn cael gwerth eu harian.”
Yn ogystal, mae Canolfan y Celfyddydau yn cynhyrchu tua £1.1m o gyllid treth ychwanegol bob blwyddyn. Mae hyn yn ad‐dalu’n gyfangwbl yr arian cyhoeddus a dderbynnir gan y Ganolfan trwy Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
Am bob £1 o nawdd cyhoeddus mae gwerth dros £10 o fudd economaidd yn cael ei greu gan y Ganolfan, gyda’r rhan fwyaf o hyn yn effeithio economi Canolbarth Cymru.
Dywedodd Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau:
‘Mae’r adroddiad hwn yn dangos y manteision sylweddol a pharhaol a ddaw yn sgil buddsoddi yn y Ganolfan, yn arbennig dros y ddwy flynedd diwethaf gyda gwireddiad ein prosiect ‘Unedau Creadigol’ sydd eisoes wedi ennill nifer o wobrau. Mae’r buddsoddiad hwn wedi talu’n ôl yn sicr, gyda’r cyllid dechreuol oddi wrth y Brifysgol, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu’r catalydd ar gyfer tyfiant, hyd yn oed yn ystod cyfnod o ddirwasgiad. Mae’n dangos bod sector y celfyddydau creadigol yn gyfrwng allweddol ar gyfer darparu tyfiant economaidd yn yr hinsawdd gyllidol bresennol.’
Mae copiau o’r adroddiad llawn ar gael o Ganolfan y Celfyddydau.