Anrhydeddu'r Is-Ganghellor
Yr Athro Noel Lloyd
12 Mehefin 2010
Dyfarnwyd y CBE i’r Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth am ei wasanaeth i Addysg Uwch yng Nghymru yn ôl rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, ddydd Sadwrn 12 Mehefin 2010.
Croeswyd y cyhoeddiad gan Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth haeddiannol hon o gyfraniad amlwg yr Athro Lloyd i Brifysgol Aberystwyth, fel Is-Ganghellor ac yn ei swydd flaenorol fel Cofrestrydd. Yn ogystal ag adlewyrchu ei gyfraniad i Aberystwyth, mae’r anrhydedd hon yn cydnabod y rhan y mae yn ei chwarae fel Cadeirydd Addysg Uwch Cymru”, dywedodd.
Dywedodd yr Athro Lloyd: “Mae derbyn hon yn anrhydedd fawr i mi yn bersonol. Mae hefyd yn arwydd o werthfawrogiad o’r cyfraniad y mae Prifysgol Aberystwyth ac Addysg Uwch yng Nghymru wedi, ac yn parhau i’w wneud, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.”
“Mae’n arbennig o addas fod y cyhoeddiad yn cyd-redeg gydag Wythnos y Prifysgolion (14eg - 20fed Mehefin) sydd yn ddathliad o’r ystod eang o gyfraniadau y mae prifysgolion yn eu gwneud mewn cymunedau ar draws Cymru a’r Deyrnas Gyfunol”, ychwanegodd.
Penodwyd yr Athro Lloyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ym 2004. Cyn hyn bu’n Gofrestrydd ac Ysgrifennydd, Dirprwy Is-Ganghellor, Deon y Gwyddorau a Phennaeth yr Adran Fathemateg.
Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt, lle y cwblhaodd ei ddoethuriaeth ac y Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan. Dadansoddi Aflinol a Sustemau Dynamegol yw ei ddiddordebau ymchwil.
Mae wedi gwasanaethau ar nifer o bwyllgorau Cynghorau Ymchwil a byrddau golygyddol, a bu’n olygydd y Journal of the London Mathematical Society o 1983 tan 1988. Bu’n aelod o Bwyllgor Sicrwydd Safon Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn aelod o fwrdd TEC Canolbarth Cymru ac yna Pwyllgor Rhanbarthol canolbarth Cymru ELWa.
Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Addysg Uwch Cymru ac yn Is-Lywydd Universities UK. Mae’n aelod o fwrdd UCEA (Universities and Colleges Employers Association) ac yn cadeirio’r pwyllgor Iechyd a Diogelwch a bwrdd y QAA (yr Asiantaeth Sicrwydd Safon), a chadeirio’r Pwyllgor Trwyddedu a Chydnabod Mynediad.
Yr oedd yr Athro Lloyd yn Ysgrifennydd Capel y Morfa, Aberystwyth o 1989 tan 2004 ac mae wedi gwasanaethau fel cadeirydd Bwrdd Yr Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’n Gymrawd Coleg Cerdd y Drindod, Llundain.