Gwobr RIBA
Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
21 Mai 2010
Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn derbyn Gwobr flaenllaw’r RIBA
Mae’r Unedau Creadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy’n rhan o Brifysgol Aberystwyth, ymysg enillwyr y gwobrau a gyhoeddwyd gan yr RIBA ar gyfer 2010, ychydig o fisoedd ar ôl derbyn gwobr sylweddol yn seremoni wobrwyo flynyddol yr Ymddiriedolaeth Ddinesig.
Mae’r prosiect, a
ddylunwyd ar gyfer Canolfan y Celfyddydau gan Stiwdio Heatherwick, yn un
o saith adeilad yn unig o Gymru i dderbyn gwobr oddi wrth yr RIBA
eleni, a’r unig un yng Nghanolbarth Cymru. Cyhoeddwyd 102 o wobrau gan
yr RIBA eleni - 93 o’r DU a’r gweddill mewn rhannau eraill o Ewrop, a
phrosiect y Ganolfan yw un o 17 o wobrau a roddwyd i adeiladau mewn
ysgolion a phrifysgolion.
Rhoddir y gwobrau i adeiladau sydd
wedi cyrraedd safonau pensaerniol uchel ac sy’n gwneud cyfraniad
sylweddol tuag at yr amgylchedd lleol. Mae’r gwobrwyo yn achlysur
blynyddol ac mae’r seremoni wedi cael ei chynnal bob blwyddyn ers 1966.
Mae enillwyr Gwobrau’r RIBA yn mynd ymlaen i gael eu hystyried ar gyfer
Gwobrau Arbennig yr RIBA, ac yn ffurfio’r rhestr hir ar gyfer y Wobr
Stirling uchel ei bri a gyhoeddir yn hwyrach yn y flwyddyn mewn achlysur
arbennig yn Llundain.
Gan gyfeirio at enillwyr y gwobrau yn 2010 dywedodd Llywydd yr RIBA Ruth Reed:
'Mae gwobrau’r RIBA yn adlewyrchu nid yn unig cyflwr pensaerniaeth Brydeinig ond hefyd cyflwr yr economi. Yng nghanol y dirwasgiad gwaethaf yn hanes 45 mlynedd y gwobrwyo mae’r gwobrau eleni yn dangos er ei fod yn gyfnod anodd i benseiri, mae adeiladau gwych yn parhau i gael eu codi ledled y wlad a thramor. Mae gwobrau’r RIBA bob tro yn rhoi cyfle i brosiectau bach a phenseiri llai adnabyddus i ddod i’r amlwg ac nid yw eleni yn eithriad. Beth bynnag yw maint y prosiect, rhoddir gwobrau’r RIBA i adeiladau sy’n ychwanegu at ansawdd bywydau pobl. ‘Rwy’n edrych ymlaen at weld rhestr fer gyffrous ar gyfer Gwobr Stirling yr RIBA.'
Bwriad y prosiect
yn wreiddiol oedd i ddatblygu rôl Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel
safle creadigol ar gyfer busnesau celf, asiantaethau datblygu’r
celfyddydau, artistiaid a chrefftwyr. Mae’r cymysgedd o artistiaid a
busnesau celf yn nodwedd unigryw o’r datblygiad hwn gyda thenantiad
sefydledig a newydd yn cydweithio gyda’i gilydd mewn amgylchedd
creadigol ac ysgogol i gyflawni eu potensial economaidd a chreadigol.
Mae’r
prosiect hefyd yn gysylltiedig ag Uned Fasnacheiddio’r Brifysgol a
strategaeth y Cynulliad i roi blaenoriaeth i ddatblygu sector y
diwydiant creadigol.
Gwnaethpwyd y prosiect, gwerth £1.4 miliwn,
yn bosibl gyda chefnogaeth oddi wrth Brifysgol Aberystwyth, Cronfa
Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae
pob uned yn llawn gydag amrediad o fusnesau creadigol newydd a
sefydledig, yn gweithio mewn meysydd sy’n cynnwys teledu, cerddoriaeth a
chynhyrchiad digidol, cyhoeddi llyfrau, ac artistiaid gweledol
proffesiynol, gan gynnwys prosiect Artistiaid Preswyl y Ganolfan. Gyda’u
gorffeniad anghyffredin o ‘ddur crychlyd’ profodd yr unedau unigryw hyn
i fod yn atyniad deniadol ar gyfer cwmniau creadigol sy’n edrych am
gartref yr un mor greadigol.
Mae Canolfan y Celfyddydau
Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth . Mae ganddi gyfleusterau
heb eu hail ledled Cymru a’r rhan fwyaf o’r DU a chroesewir dros 700,000
o ymwelwyr y flwyddyn i’w rhaglen amrywiol sy’n cynnwys pob agwedd o’r
celfyddydau.
Heatherwick Studio yw un o gwmniau dylunio mwyaf blaenllaw’r DU gyda phrosiectau sy’n cynnwys stôr byd-enwog Longchamp yn Efrog Newydd, y Rolling Bridge yn Llundain a’r East Beach Café yn Littlehampton a enillodd wobr RIBA. Un o’i brosiectau diweddaraf yw Pafiliwn y DU yn Expo Shanghai a fydd yn agor ym mis Mai eleni.
Gwobrau’r RIBA yng Nghymru yn 2010:• Llyfrgell Ganolog Caerdydd BDP
• Canolfan Gelf Chapter Ash Sakula
• Unedau Busnes Creadigol Stiwdio Heatherwick
• Hafod Eryri (yr adeilad ar gopa’r Wyddfa) Penseiri Ray Hole
• Canolfan Ddarganfod Margam Loyn a Chwmni / Penseiri ac Uned Ymchwil Dylunio
• Skypad - Uned Ymddiriedolaeth Gancr Ieuenctid Orms Architecture Design
• Gwesty Sleeperz Clash Associates