Mwy na thebyg y lle gorau yn y byd...
Myfyrwyr ar y traeth
16 Ebrill 2010
Mae’n debyg mai Prifysgol Aberystwyth yw’r lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr gyda’r lefel uchaf o fodlonrwydd ymysg myfyrwyr yn ôl Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol 2009 a gyhoeddir y mis hwn (Ebrill).
Mae Aberystwyth ar y brig, yr uchaf o 123 sefydliad Addysg Uwch ar draws y byd, o ran ‘lle da i fod’ a ‘bodlonrwydd myfyrwyr yn gyffredinol’.
Y Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol yw’r arolwg blynyddol o fyfyrwyr mwyaf o’i fath ac mae wedi casglu gwybodaeth gan dros 600,000 o fyfyrwyr ledled y byd ers iddo gael ei sefydlu yn 2005. Mae’n cynnwys dros 500 o sefydliadau ar 5 cyfandir.
Cafwyd canlyniadau anhygoel i Brifysgol Aberystwyth ym mhob agwedd o brofiad myfyrwyr. O’u profiad cychwynnol a’r croeso ar eu penwythnos cyntaf i safon yr addysg, adnoddau dysgu a chefnogaeth academaidd, dywedodd myfyrwyr Aberystwyth bod safon y profiad academaidd ar gael iddynt ymysg y gorau bosib.
Dywedodd Yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Yn naturiol, rydym yn hynod falch i’r Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol ddangos bod gan Brifysgol Aberystwyth y lefel uchaf o fodlonrwydd myfyrwyr ac y caiff ei hystyried fel y lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr. Mae hyn yn cadarnhau’r penderfyniad gan y Brifysgol i fuddsoddi’n sylweddol yn safon yr adnoddau a chyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr.”
“Mae’r Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol yn arolwg uchel ei barch sy’n casglu gwybodaeth gan fyfyrwyr ar draws y byd. Mae’n ganlyniad eithriadol o dda i Brifysgol Aberystwyth.”
“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o arolygon sydd wedi dyfarnu Aberystwyth ymysg y prifysgolion gorau o ran profiad myfyrwyr. Rydym yn buddsoddi dros £30miliwn yn ein hadnoddau a’n cyfleusterau er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn parhau i fwynhau’r gorau bosib. Mae’n myfyrwyr presennol, a’r rhai fydd yn ymuno â ni yn y dyfodol, yn siŵr o fod yn rhan o’r amgylchedd orau i fyfyrwyr ar gael o fewn y DG.”