Unedau Creadigol yn ennill Gwobr
Unedau Creadigol, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
24 Mawrth 2010
Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ennill Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig
Prosiect yn ennill gwobr yn y categori ar gyfer Adeiladau Newydd, Adferiadau a Llefydd Cyhoeddus Gorau.
Mae prosiect Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy’n adran o Brifysgol Aberystwyth, wedi ennill gwobr yn seremoni wobrwyo flynyddol yr Ymddiriedolaeth Ddinesig a gynhaliwyd ar 12fed Mawrth yn Neuadd San Siôr yn Lerpwl. Daw’r wobr bron deugain mlynedd ar ôl i’r Ganolfan ennill un o wobrau’r Ymddiriedolaeth am y tro cyntaf am ei phrif adeiladau - enghraifft wych o hanes yn ail-adrodd ei hun, a phrawf bod y Ganolfan yn parhau i anelu at ragoriaeth mewn pensaerniaeth.
Rhoddir y gwobrau i brosiectau sydd o fudd yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac sy’n gwneud cyfraniad eithriadol tuag at ansawdd a golwg yr amgylchedd adeiledig. Cydnabyddwyd dros 50 o brosiectau o’r DU, Iwerddon a Sbaen, a ddewiswyd allan o dros 330 o geisiadau, yn y Seremoni Wobrwyo. Yr Unedau Creadigol, a ddylunwyd gan y Stiwdio Heatherwick adnabyddus, oedd yr unig brosiect a leolwyd yng Nghymru i ymddangos ar y rhestr fer eleni ac felly yr unig enillydd Cymreig.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, Alan Hewson, a fynychodd y seremoni i dderbyn y plac sylweddol yn bersonol ‘Mae’n ffantastig bod yr Unedau Creadigol wedi ennill gwobr genedlaethol mor bwysig yn erbyn cystadleuaeth frwd oddi wrth adeiladau o’r DU, Iwerddon ac Ewrop. Mae’r clod i bawb a weithiodd ar y prosiect, o’r cynlluniau ysbrydoledig oddi wrth Thomas Heatherwick a‘i dîm, y tîm a reolodd y prosiect a chefnogaeth ein holl noddwyr. Gwnaethpwyd cyfraniad hynod werthfawr gan bawb tuag at greu yr hyn y cyfeirwyd ato yn ystod seremoni’r Ymddiriedolaeth Ddinesig fel “lleoliad ysbrydoledig ar gyfer artistiaid a mentrau.” ‘
Bwriad y prosiect yn wreiddiol oedd i ddatblygu rôl Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel safle creadigol ar gyfer busnesau celf, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiaid a chrefftwyr. Mae’r cymysgedd o artistiaid a busnesau celf yn nodwedd unigryw o’r datblygiad hwn gyda thenantiad sefydledig a newydd yn cydweithio gyda’i gilydd mewn amgylchedd creadigol ac ysgogol i gyflawni eu potensial economaidd a chreadigol. Mae’r prosiect hefyd yn gysylltiedig ag Uned Fasnacheiddio’r Brifysgol a strategaeth y Cynulliad i roi blaenoriaeth i ddatblygu sector y diwydiant creadigol.
Gwnaethpwyd y Prosiect Unedau Creadigol, gwerth £1.4 miliwn, yn bosibl gyda chefnogaeth oddi wrth Brifysgol Aberystwyth, Cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae pob uned yn llawn gydag amrediad o fusnesau creadigol newydd a sefydledig, yn gweithio mewn meysydd sy’n cynnwys teledu, cerddoriaeth a chynhyrchiad digidol, cyhoeddi llyfrau, ac artistiaid gweledol proffesiynol, gan gynnwys prosiect Artistiaid Preswyl y Ganolfan. Gyda’u gorffeniad anghyffredin o ‘ddur crychlyd’ profodd yr unedau unigryw hyn i fod yn atyniad deniadol ar gyfer cwmniau creadigol sy’n edrych am gartref yr un mor greadigol!
Yn ogystal â’r Unedau Creadigol dyfeisgar, bu’r enillwyr eraill yn cynnwys Liverpool One Masterplan; adferiad St Martin-in-the-Fields; Sgwâr Trafalgar yn Llundain; cerflunwaith a leolir ar safle hen bwll glo yn St Helens a gwinllan newydd yn Bodegas Protos yng ngogledd Sbaen. Gwelir rhestr lawn o’r enillwyr ar wefan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig ar www.civictrustawards.org.uk lle gellir hefyd lawrlwytho’r Llyfryn Gwobrwyon 2010.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Gwobrau’r Ymddiriedolaeth Ddinesig Malcolm Hankey, "’Roeddem wrth ein bodd yn gweld gymaint o wahanol brosiectau yn cael eu cyflwyno i’w hystyried. Mae Gwobrau’r Ymddiriedolaeth yn dathlu nid yn unig rhagoriaeth mewn dylunio, ond hefyd y perthynas rhwng strwythurau, llefydd, yr amgylchedd a chymunedau lleol. Mae’r grŵp o enillwyr eleni yn profi i’r dim sut y gall y perthynas hwn arwain at ddatrysiadau effeithiol a llawn dychymyg."