Rhagor o lwyddiant gyda chnydau i wyddonwyr
Dr Athole Marshall gyda'i geirch gaeaf
05 Mawrth 2010
Sefydliad byd enwog yn parhau i arwain gyda mathau newydd o gnydau
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth unwaith eto’n arwain y ffordd wrth ddatblygu mathau newydd o un o gnydau pwysicaf gwledydd Prydain. Ac, wrth wneud, maen nhw wedi curo’r Tardis!
Mae Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS) wedi llwyddo i gael dau fath newydd o geirch gaeaf wedi’u rhoi ar y rhestr awdurdodol o gnydau sy’n cael ei chyhoeddi gan yr ‘Home Grown Cereals Authority’ (HGCA). Dyna’r corff sy’n hyrwyddo cynhyrchu, maeth a marchnata grawn yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae’r ddau fath yn ychwanegu at ddegawdau o lwyddiant yn IBERS gan gynnig ceirch mwy cynhyrchiol, gwydn a haws eu tyfu i ffermwyr, melinwyr a gwneuthurwyr porthiant anifeiliaid.
“R’yn ni wrth ein boddau’n gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod unwaith eto yn y rhestr gnydau awdurdodol yma,” meddai Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell.
“Yn bwysicach fyth, bydd y mathau newydd yma o geirch yn helpu i wneud ffermwyr y Deyrnas Unedig yn fwy proffidiol ac o fudd i’r amgylchedd.”
Erbyn hyn, ceirch gaeaf o IBERS sy’n cymryd 70% o’r farchnad gwerth £2 filiwn y flwyddyn mewn hadau ceirch yn y Deyrnas Gyfunol. Mae un math, Gerald, yn arwain y maes, yn gyfrifol am 45% o gyfanswm y cnydau ceirch gaeaf.
Eleni, mathau newydd IBERS yw’r unig geirch gaeaf i’w hychwanegu at y Rhestr Gymeradwy. Maen nhw’n ymuno â rhes hir o fathau llwyddiannus o geirch o Aberystwyth.
- Math confensiynol gyda phlisgyn yw Balado ac mae’n cynnig cnwd toreithiog i ffermwyr - 5% yn fwy na’r math adnabyddus arall o geirch gaeaf o Aber, Tardis.
- Does gan Fusion ddim plisgyn ac mae’n cael ei alw’n ‘geirch noeth’. Ac yntau wedi’i anelu’n benodol at anifeiliaid – heblaw rhai sy’n cnoi cil – mae’n ffynhonnell wych o ynni sy’n gallu gwneud heb gemegau i reoli ei dwf.
Cafodd gwyddonwyr y Sefydliad eu canmol am lwyddo i gyfuno ymchwil sylfaenol i enynnau planhigion gyda thechnegau bridio sy’n datblygu mathau masnachol o blanhigion, a’r rheiny’n cyfrannu at ddiogelwch bwyd, ynni a dŵr, ac amgylchedd cynaliadwy.
“Rydym yn falch iawn o weld fod dau fath arall o’n ceirch wedi cael eu cynnwys ar y rhestr gymeradwy,” meddai un o’r tîm ymchwil, Athole Marshall. “Rydym yn parhau gyda llwyddiant rhyfeddol IBERS a’i ragflaenwyr tros fwy na 90 mlynedd.”