Gwobr Addysgu AU
Dr Judith Broady-Preston
08 Mawrth 2010
Academydd o Aber yn Cipio Gwobr Addysgu Addysg Uwch
Mae Uwch
Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill un o wobrau addysgu yr
Academi Addysg Uwch.
Dyfarnwyd Gwobr Addysgu 2009-10 yr Academi
Addysg Uwch am Addysgu Astudiaethau Gwybodaeth a Chyfrifiadureg mewn
Addysg Uwch yng Nghymru i’r Dr Judith Broady-Preston o Adran
Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth.
Nod y wobr yw
cydnabod a gwobrwyo athrawon Astudiaethau Gwybodaeth a Chyfrifiadureg
sy’n gweithio yn y sector addysg uwch yng Nghymru ac sydd wedi gwneud
cyfraniad eithriadol i dwf, datblygiad a gwellhad safonau dysgu yn eu
maes. Mae’r wobr hefyd yn fodd o dynnu sylw’r gymuned Astudiaethau
Gwybodaeth a Chyfrifiadureg yn gyffredinol at yr hyn y mae athrawon yn
ei gyflawni.
Caiff un wobr Astudiaethau Gwybodaeth a
Chyfrifiadureg ei dyfarnu’n flynyddol gan yr Academi Addysg Uwch ond
dyma’r tro cyntaf iddi gael ei hennill gan academydd o Aberystwyth.
Gellid defnyddio’r wobr o £5,000 at ddibenion addysgiadol, gan gynnwys
prynu llyfrau ac offer, neu dalu am gostau teithio a threuliau eraill
sy’n gysylltiedig gydag addysgu, ymchwil a gweithgareddau proffesiynol
eraill.
Dywedodd y Dr Broady-Preston, a ymunodd â staff
Prifysgol Aberystwyth University fel Uwch Ddarlithydd ym 1990: “Rwyf
wrth fy modd i mi dderbyn y wobr hon. Mae’n gydnabyddiaeth o’n holl
ymdrechion yma yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth i ehangu mynediad i
Addysg Uwch ac i ddarparu cyfleon dysgu ar gyfer pobl sy’n gweithio a
hynny mewn disgyblaeth a phroffesiwn deinamig sy’n newid yn gyflym.”
Dywedodd y Dirprwy Is Ganghellor yr Athro Martin Jones bod y wobr yn adlewyrchiad o safonau addysgu Prifysgol Aberystwyth.
“Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella ein dysgu a’n haddysgu er mwyn gallu cynnig cyfleon dysgu o’r radd flaenaf i fyfyrwyr,” meddai’r Athro Martin Jones.
“Mae gennym strategaeth Dysgu ac Addysgu uchelgeisiol a’n nod yw cefnogi staff ymhob agwedd o’u datblygiad proffesiynol. Rydym felly yn flach iawn bod aelod o’n staff academiadd wedi cael cydnabyddiaeth am ei sgiliau addysgu rhagorol ac rydym yn estyn ein llongyfarchiadau gwresog i’r Dr Judith Broady-Preston.”