Datganiad Dydd Gŵyl Dewi
Yr Hen Goleg
01 Mawrth 2010
Bydd prifysgolion amlycaf Cymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy adnewyddu eu hymrwymiad ar y cyd i ysgogi economi wybodaeth Cymru.
Fe wnaeth Datganiad Dydd Gŵyl Dewi, a lofnodwyd yn 2009 gan Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe, ymrwymo’r prifysgolion i weithio gyda’i gilydd, gan gyfuno’u cryfderau a’u doniau mewn ymchwil ac arloesedd er mwyn gwella’r economi wybodaeth yng Nghymru.
Gyda’i gilydd, mae’r pum prifysgol yn cynrychioli dros 70% o’r holl fyfyrwyr yng Nghymru a thros 95% o weithgarwch ymchwil y genedl. Mae ganddynt drosiant blynyddol cyfunol sy’n agos at £1 biliwn, gan gynnwys cyfraniad sylweddol o ffynonellau rhyngwladol, ac mae’r pum prifysgol yn creu budd economaidd sylweddol i Gymru.
I nodi Dydd Gŵyl Dewi a dathlu pen-blwydd cyntaf llofnodi’r Datganiad, mae’r pump Is-Ganghellor wedi cadarnhau eu hymrwymiad o’r newydd.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Is-Gangellorion y pum prifysgol: “Cadarnhaodd Datganiad Dydd Gŵyl Dewi, a lofnodwyd yn 2009, ein cred y gallwn helpu Cymru greu economi arloesol a deinamig a chymdeithas gyfiawn i’r 21ain Ganrif, trwy gyd-adeiladu ar gyfalaf deallusol a rhagoriaeth academaidd ein prifysgolion.
“Gwyddom fod ein staff a’n myfyrwyr, gyda’i gilydd, yn gallu cynnig cymorth gwirioneddol i fusnes, i’r sector cyhoeddus ac i unigolion. Ein blaenoriaeth gyntaf fu helpu Cymru i weithio’i ffordd allan o’r dirwasgiad presennol ac, y tu hwnt i hynny, greu cymdeithas ac economi fywiog wedi’u harwain gan wybodaeth, sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad.
“Wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, dyma gyfle delfrydol i gydnabod cyflawniadau’r Grŵp ac adnewyddu ein hymrwymiad i wneud i’r datganiad weithio er budd economi wybodaeth Cymru.”
Yn ystod y 12 mis ers llofnodi’r datganiad, mae’r pump Is-Ganghellor wedi cyfarfod yn rheolaidd i drafod meysydd posibl o gydweithredu a gweithio ar y cyd.
Mae nifer o brosiectau allweddol sy’n cynnwys pob un o’r pum prifysgol wedi cael eu datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan CCAUC a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Deyrnas Unedig (ESRC). Mae’r Sefydliad yn dwyn ynghyd ac yn adeiladu ar yr arbenigedd presennol mewn dulliau a methodoleg ymchwil feintiol ac ansoddol yn y pum Prifysgol Gymreig. Yn WISERD, gall Cymru ymhyfrydu mewn cael canolfan ragoriaeth ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol i gefnogi’r Llywodraeth i fynd i’r afael â phroblemau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru, drwy gasglu data yn defnyddio’r fethodoleg ymchwil fwyaf datblygedig a chyflogi ymchwilwyr o fri rhyngwladol.
• Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru (WIMCS). Mae’r Sefydliad yn dwyn ynghyd unigolion a grwpiau yn y gwyddorau mathemategol a chyfrifiannol ar draws y Prifysgolion er mwyn darparu’r nifer ddigonol o ymchwilwyr o safon uchel a fydd yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ragoriaeth mewn ymchwil fathemategol. Bydd y Sefydliad yn helpu gwella statws mathemateg a chyfrifiant yng Nghymru, gan feithrin cysylltiadau â diwydiant, masnach a busnes, sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer ymchwil a chynnig fforwm ar gyfer addysg ac ymwybyddiaeth gyhoeddus o wyddorau mathemategol.
• Y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (LCRI). Sefydlwyd LCRI i ddod ynghyd â’r ystod amrywiol o ymchwil yn y pum prifysgol i faes ynni er mwyn dylanwadau ar yr heriau amgylcheddol mawr sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach. Nod LCRI yw cefnogi’r sector ynni cyfan, yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, wrth ddatblygu technolegau cynhyrchu, storio a dosbarthu carbon isel a thechnolegau defnydd terfynol carbon isel. Bydd yn datblygu cynhwysedd a chyfleusterau yn gysylltiedig â meysydd presennol yr arbenigedd ar garbon isel ac ynni yng Nghymru, ac ar yr un pryd yn ehangu gweithgareddau ymchwil i feysydd eraill sy’n gysylltiedig ag ynni.
• Sefydliad Ymchwil Cyfrifiadura Gweledol (RIVIC) – dyma gyfuniad cydweithredol o raglenni ymchwil rhwng adrannau cyfrifiadureg Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Nod canolfan ymchwil genedlaethol gyntaf ‘Cymru’n Un’ yw cyfoethogi a chryfhau’r garfan graidd o wyddonwyr academaidd ym maes cyfrifiadura gweledol yng Nghymru trwy gyflogi gwyddonwyr ymchwil o safon uchel sydd â hanes o weithio gyda’r diweddaraf mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, ac o weithredu ar lefel ryngwladol.
• Mae prosiect gwerth £1.2 miliwn, sy’n cynnwys pum partner Grŵp Dydd Gŵyl Dewi a Phrifysgol Glyndŵr, wedi ymestyn y ddarpariaeth cyngor gyrfaol ar ddod o hyd i swyddi mewn marchnadle anodd, i raddedigion newydd. Mae’r prosiect yn para tan ddiwedd 2010 ac mae’n ymestyn y ddarpariaeth cyngor gyrfaol i ryw 3000 o raddedigion. Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cynorthwyo hyd at 1000 o raddedigion di-waith i gael hyfforddiant hanfodol gan y prifysgolion partner o fewn cynllun Taleb Dysgu Unigol. Mae’r cynllun yn agored i’r holl raddedigion sy’n byw yng Nghymru, ni waeth lle y gwnaethant astudio ar gyfer eu gradd. Mae cyd-brosiect y Prifysgolion yn rhan o becyn £2.15 miliwn o bedwar prosiect a gyhoeddwyd gan Fenter Cymorth Economaidd Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru (CCAUC).
Ychwanegodd y pump Is-Ganghellor: “Mae angen i ddatblygiad Cymru gael ei sbarduno gan arloesedd gwirioneddol. Daw’r arloesedd hynny o hyd a lled y wybodaeth y mae ein prifysgolion yn ei chynrychioli.
“Mae Datganiad Dydd Gŵyl Dewis eisoes wedi gweld cydweithrediad gennym mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys datblygiad cynaliadwy, gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol a pholisïau adfer cymdeithasol. Gwyddom, gyda’n gilydd, fod ein staff a’n myfyrwyr yn gallu cynnig cymorth gwirioneddol i fusnes, i’r sector cyhoeddus ac i unigolion.
“Ein blaenoriaeth o hyd yw defnyddio’n cryfder cyfunol mewn ymchwil ac arloesedd er mwyn helpu Cymru i gryfhau yn sgil y dirwasgiad ac, y tu hwnt i hynny, greu cymdeithas ac economi fywiog wedi’u harwain gan wybodaeth, sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad.”
Mae’r pump Is-Ganghellor a’u staff wedi gwneud addewid i barhau i gydweithio er mwyn canfod meysydd ychwanegol lle byddai cryfder cyfunol yn fwy buddiol.
Mae rhai o’r meysydd allweddol a nodwyd gan y Grŵp ar gyfer y deuddeg mis nesaf yn cynnwys: helpu i ddatblygu atebion i anghenion busnes ac unigol sy’n gweithio ac sy’n gallu cael effaith yn fuan; gweithio gyda busnes, y sector gwirfoddol a’r llywodraeth er mwyn pennu’r hyn ddylai fod yn flaenoriaethau gwirioneddol i Gymru; parhau â rhaglenni buddsoddi cyfalaf, gan ddiogelu swyddi adeiladu a chefnogi busnesau o Gymru trwy ddefnyddio cyflenwyr lleol pryd bynnag y bo modd; a chydweithio ymhellach ar brosiectau sydd â’r nod o weithio gyda busnesau a phartneriaid addysg rhyngwladol.