Y Brifysgol yn rhan o ymgyrch ymchwil rhyngwladol £1m
Peter Brophy a Neil Mackintosh, IBERS
23 Mawrth 2010
Prifysgol Aber yn rhan o ymgyrch ymchwil rhyngwladol £1m i effeithiau llyngyr yr iau
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o ymgyrch ymchwil rhyngwladol gwerth £1 miliwn i geisio goresgyn llyngyr yr iau - parasit sy’n achosi clefyd i anifeiliaid, a biliynau mewn colledion ariannol i amaethwyr ar draws y byd.
Mae’r clefyd a achosir gan lyngyr yr iau - Fasciolosis - yn cael effaith dirfawr ar anifeiliaid ar draws y byd, gan achosi salwch a gostyngiad sylweddol yn eu cynhyrchiant. Amcangyfrifir i’r colledion i amaethwyr y Deurnas Gyfunol (DG) fod dros £300 miliwn yn flynyddol, tra yn India, mae Fasciolosis yn gyfrifol am golledion gwerth rhwng £1.3 a £3 biliwn y flwyddyn.
Mae’r clefyd hwn hefyd yn bathogen a all heintio pobl sy'n cael ei gario mewn bwyd. Amcangyfrifir i 17 miliwn o bobl gael eu heintio gan lyngyr yr iau ag fe’i dynodwyd yn Glefyd Trofannol a Esgeuluswyd gan y Sefydliad Iechyd y Byd.
Bydd parasitolegwyr o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio â phartneriaid yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Queen’s, Belfast; Prifysgol Fwslimaidd Aligarh a Phrifysgol Gwyddorau Anifeiliaid a Milfeddygaeth Tamil Nadu yn India, i ddarganfod brechiad ar gyfer y clefyd.
Dywedodd Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rwy’n hynod falch bod IBERS yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â sialensiau byd-eang gan gyfrannu at ddatrys rhai o broblemau mwyaf difrifol y byd datblygedig.”
Dywedodd Yr Athro Aaron Maule Ysgol Gwyddorau Biolegol Queen’s: “Mae llyngyr yr iau yn achosi colledion difrifol i wartheg, byfflo, geifr a defaid ag yn fygythiad difrifol i fywoliaeth amaethwyr mewn sawl ardal o Asia ag Affrica. Gall amaethwr yn India weld gostyngiad o 30 y cant yng nghynhyrchiant llaeth byfflo sydd wedi ei heintio. Mae’r parasit hwn yn fyrdwn enfawr i economi India sy’n hynod ddibynnol ar amaeth.
“Yn y byd datblygedig, rheolir llyngyr yr iau gan gyffuriau a ddefnyddir i’w difa. Fodd bynnag, mae ymwrthiant cyffuriau ar gynnydd. Wrth i’r cyffuriau yma ddod yn llai effeithiol, gwelir cynnydd yn yr achosion o’r clefyd yn y DG.
“Mae angen strategaeth reoli newydd arnom ar frys, wedi’i seilio ar frechiadau neu gemotherapi. Dyma’n union y byddwn yn ei weithio arno, gyda’n partneriaid yng Nghymru ac India, i’w ddatblygu dros y tair blynedd nesaf.
“Yn allweddol i’r datblygiad o driniaeth effeithiol bydd y dewis cywir o frechiad addas neu gyffur targed o fewn y llyngyr. Byddwn yn canfod y targed hwn gan ddefnyddio technoleg folecwlar newydd, er enghraifft tawelu genyn, ble caiff targedau posib eu tynnu dros dro o’r llyngyr er mwyn darganfod ei bwysigrwydd i fywyd y llyngyr. Yn dilyn dewis y targedau brechiad gorau, bydd ein partneriaid yn India yn ymgymryd â gwaith maes gydag anifeiliaid i ddarganfod y brechiad gorau ar gyfer rheoli clefyd llyngyr yr iau.
“Credwn i’r strategaeth wedi’i seilio ar dechnoleg hwn o ddewis brechiad a thargedau cyffur fod yn drosglwyddadwy i barasitiaid eraill ar anifeiliaid a dynol, er enghraifft llyngyr y gwaed a llyngyr rhuban.”
Mae’r £1 miliwn o
arian ymchwil yn rhan o’r gronfa £13 miliwn Goresgyn Clefydau Heintiau
Anifeiliaid ar gyfer Datblygu Rhyngwladol a ariannir ar y cyd gan Gyngor
Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, Yr Adran dros Ddatblygu
Rhyngwladol a Gweithrediaeth yr Alban.
Dywedodd y Gweinidog y DG dros Ddatblygiad: “Mae mân-ddalwyr o wledydd datblygedig yn wynebu anawsterau’n ddyddiol. Gall anifail iach olygu’r gwahaniaeth rhwng bwydo teulu neu blymio i ddyfnderoedd tlodi a chamfaethiad. Bydd yr ymchwil newydd hwn yn lleihau tlodi, cynyddu iechyd anifeiliaid gan, yn y pen draw, wella safon byw rai o bobl dlotaf y byd.”
Wrth groesawu’r ymchwil, dywedodd y Gweinidog dros Wyddoniaeth ag Arloesi, Yr Arglwydd Drayson: “Mae’r cydweithio hwn yn esiampl o benderfyniad y DG i rannu ein gwyddoniaeth arloesol wrth chwilio am well triniaethau a theclynnau diagnostig i iechyd anifeiliaid. Mae iechyd anifeiliaid yn fygythiad andwyol i bob ardal ar draws y byd. Bydd yr ymchwil hwn yn caniatáu i gymunedau amddiffyn cadwynau bwyd ag economïau yn ein gwlad ni ag yng ngwledydd datblygedig y byd.
Dywedodd Prif Weithredwr BBSRC, Yr Athro Douglas Kell: “Drwy ymuno â phartneriaid o’r byd datblygedig, gall gwyddoniaeth o’r DG sicrhau sail gref ar gyfer ateb problemau rheoli clefydau o frechiadau gwell i dechnegau diagnostig soffistigedig a fydd, nid yn unig yn trawsnewid bywydau miliynau ar draws y byd datblygedig, ond yn creu strwythur mwy sefydlog ar gyfer da byw ar draws y byd ag er lles pawb.”