Tu hwnt i'r wyneb
Professor Reyer Zwiggelaar
16 Mawrth 2010
Ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn arddangos technoleg synhwyro celwydd y dyfodol
Mewn partneriaeth arloesol newydd, mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn cydweithio â dylunwyr Coleg Celf Frenhinol i ddelweddu effaith bosibl datblygiadau gwyddonol ac archwilio sut y gallent effeithio ar sut yr ydym yn byw ym Mhrydain yn y dyfodol.
Bydd y canlyniadau i'w gweld yn y IMPACT!, arddangosfa sy'n cynnig cipolwg pwerus i sut y gallai ymchwil heddiw trawsnewid ein profiad o'r byd. Mae IMPACT! yn rhedeg o ddydd Mawrth 16eg Mawrth tan ddydd Sul 21ain Mawrth yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain.
Bydd y holl alluoedd y dechneg broffilio amser real deinamig goddefol a ddyfeisiwyd gan Brifysgol Aberystwyth, sy'n galluogi defnyddwyr i arsylwi teimladau ac emosiynau unigolyn, tu hwnt i'r hyn a fynegir yn weledol, i’w gweld yn yr arddangosfa.
Eglurodd yr Athro Reyer Zwiggelaar, prif wyddonydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r dechnoleg newydd yn seiliedig ar fodelu mynegiant ar wyneb unigolion ynghyd â symudiadau’r llygaid a newidiadau yng nghannwyll y llygad yn y weledol a thermol gan gysylltu'r rhain ag emosiynau a phrosesau ffisiolegol fel llif y gwaed, patrymau symudiadau’r llygaid a newidiadau i led cannwyll y llygad."
Dewisodd James Auger, dylunydd yn y Coleg Celf Brenhinol, i weithio â Phrifysgol Aberystwyth er mwyn dangos sut y gall y dechneg proffilio, sy'n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), gael ei ddefnyddio o fewn sefyllfaoedd domestig o fewn y pump i ddeng mlynedd nesaf.
Dywedodd yr Athro Zwiggelaar: "I raddau helaeth, mae modd i unigolion lwyddo i reoli'r hyn y maent yn ei fynegi ar eu hwyneb a’u hemosiynau gan guddio eu gwir deimladau. Mae ein technoleg yn cyfuno gwybodaeth thermol a gweledol gan ein galluogi i gael cipolwg ar wir deimladau unigolion gan weld os yw’r hyn y maent yn ei ddweud yn wir. Rydym yn rhagweld y bydd y dechneg yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn am les emosiynol person.
Prif amcan Prifysgol Aberystwyth wrth ddatblygu'r dechnoleg hon yw i gefnogi Asiantaeth Ffiniau’r DG i ganfod pan fydd unigolion yn ceisio cario deunyddiau anghyfreithlon dros y ffin.
Mae'r prosiect yn cynnwys dimensiwn pellach o gydweithio rhwng y celfyddydau a'r gwyddorau: buodd y bardd gwobrwyiedig Keats-Shelley, Dr Richard Marggraf Turley, o Adran Saesneg ag Ysgrifennu Creadigol yn cydweithio â James Augerwrth wrth gyfansoddi naratifau byr er mwyn gweld sut y gallai’r dechnoleg adnabod emosiynau chwarae rôl ryngweithiol ym mywydau teulu sydd wedi gosod y dechnoleg yn eu cartref.
Dywedodd yr Athro Robert Winston, a fydd yn lansio'r arddangosfa,: "Trwy lygaid dylunio, mae’r prosiect hwn yn cynnig golwg ffres a chreadigol ar syniadau gwyddonwyr a pheirianwyr a sut y gall y prosiectau y maent yn gweithio arnynt ar hyn o bryd drawsffurfio ansawdd ein bywyd a mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu yn yr 21ain ganrif mewn meysydd fel peirianneg gofal iechyd, trafnidiaeth, cyfathrebu digidol a'r diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod llawer o'n cyfleusterau a chysuron bywyd bob dydd yn hanu o’r DG; ag yn archwiliad diddorol i’r cysylltiadau posibl rhwng gwyddoniaeth a chymdeithas yn y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Anthony Dunne, Pennaeth Dylunio Rhyngweithio'r Coleg Celf Brenhinol: "Fel arfer, fel dylunwyr, rydym wedi ein hyfforddi i edrych ar ddatblygiadau gwyddonol er mwyn gweld sut y gallwn ddatrys problemau neu ddod o hyd i farchnad newydd. Gyda’r prosiect hwn rydym yn ceisio edrych ar bethau o ogwydd gwahanol gan ystyried sut y mae gwyddoniaeth yn dylanwadu ar bobl a sut y gall gwyddoniaeth ein harwain ni at lwybrau cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd newydd. Tra bod y prosiectau dylunio yn yr arddangosfa yn ein hannog i edrych ar sut y gall gwyddoniaeth ddylanwadu ar ein bywydau yn y dyfodol, nid ydym am ddatrys problemau’r byd yma, neu hyd yn oed gynnig atebion; cwestiynau, syniadau a phosibiliadau yn unig a geir. Maent yn mynd i’r afael â’n credoau a’n gwerthoedd; maent yn herio ein rhagdybiaethau; ac maent yn ein helpu i weld mai dim ond un posibilrwydd yw’r sefyllfa bresennol."
IMPACT! yw’r arddangosfa gyntaf o'i fath a drefnwyd ar y cyd rhwng prif asiantaethau cyllido ar gyfer gwyddoniaeth a pheirianneg y DG - Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA) a’r Coleg Celf Frenhinol.
Bydd un ar bymtheg o brosiectau gwreiddiol yn edrych ar sut y gallem weithio gyda thechnolegau newydd a ganfuwyd o'r ymchwil diweddaraf, gan gynnig awgrymiadau ar sut y gall gwyddoniaeth ddylanwadu ar ein dyfodol, i’w gweld yn yr arddangosfa.