‘Pam mae gwledydd yn ymladd? Cymhellion cyfoes a hanesyddol dros fynd i ryfel'
Richard Neb Lebow
23 Mawrth 2010
DARLITH GOFFA E.H.CARR 2009-10
‘Pam mae gwledydd yn
ymladd? Cymhellion cyfoes a hanesyddol dros fynd i ryfel’
Mae’n bleser gan Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth gyhoeddi mai’r Athro Richard Ned Lebow fydd yn traddodi Darlith Carr 2009-10 am 7 o’r gloch Nos Iau 25 Chwefror. Darlith gyhoeddus yw hon.
Mae’r Athro Lebow yn un o ysgolheigion uchaf ei bri yn yr Unol Daleithiau. Mae wedi ysgrifennu cyfres o gyhoeddiadau cynhwysfawr a dylanwadol ar strategaethau niwcliar, argyfyngau, dimensiynau seicolegol anghydfodau rhyngwladol, a hanes rhyngwladol. Yn fwy diweddar, mae ei waith wedi canolbwyntio ar agweddau damcaniaethol Cysylltiadau Rhyngwladol.
Ymhlith ei lyfrau mwyaf diweddar y mae The Tragic Vision of Politics: Ethics, Interests and Orders (Cambridge University Press, 2003), a enillodd wobr Alexander L. George Award am y llyfr gorau mewn seicoleg gwleidyddol, A Cultural Theory of International Relations (Cambridge University Press, 2008), a enillodd Wobr Jervis-Schoeder Award am y llyfr gorau’n ymdrin â chysylltiadau a hanes rhyngwladol, a Gwobr Susan Strange Award am y llyfr gorau i’w gyhoeddi ym maes cysylltiadau rhyngwladol. Mae Forbidden Fruit: Counterfactuals and International Relations newydd ei gyhoeddi gan wasg Princeton University Press.
Ar hyn o bryd, yr Athro Lebow yw Athro Llywodraethiant Coleg Dartmouth yn ogystal ag yn Athro Canmlwyddiant Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE).
Cynhelir y ddarlith yn Hen Neuadd yr Hen Goleg am 7 o’r gloch Nos Iau 25 Chwefror 2010 ac mae croeso i bawb i fynychu digwyddiad sy’n argoeli i fod yn un hynod ysgogol a deallusol.
Darlithoedd Coffa EH Carr - Y Cefndir
Sefydlwyd Cadair Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Woodrow Wilson yn Aberystwyth yn 1919 a hi yw’r hynaf yn y pwnc. Mae’n debyg taw E.H. Carr, y pedwerydd i’w dal, oedd ei deilydd mwyaf amlwg.
Yn ystod ei flynyddoedd yn Aberystwyth (1936-1947), ysgrifennodd Carr The Twenty Years’ Crisis 1919-1939: An Introduction to the Study of International Relations, llyfr sydd yn cael ei adnabod fel un o weithiau arloesol y pwnc. Yn ddiweddarach, daeth i amlygrwydd yn y byd academaidd ehanganch am ei waith aml-gyfrol, A History of Soviet Russia a’i lyfr llwyddiannus What is History?. Bu farw Carr yn 1982 yn 90 mlwydd oed.
Mae’r Adran wedi bod yn cynnal darlith flynyddol er cof amdano ers 1984. Mae Darlith Goffa E.H. Carr yn cael ei thraddodi i gynulleidfa gyhoeddus ar bwnc o ddewis y siaradwr yn y maes cyffredinol o wleidyddiaeth rhyngwladol.
Yn wreiddiol cyllidwyd y gyfres hon o ddarlithoedd gan freindal o lyfrau a ddaeth o gynhadleddau a noddiwyd gan yr Adran dros gyfnod o 20 mlynedd yn Neuadd Gregynog, canolfan cynhadleddau Prifysgol Cymru ger y Drenewydd, Powys. Gregynog oedd cartref David Davies, a waddolodd Cadair Wilson. Mae’r cyfres o ddarlithoedd nawr yn cael ei ariannu yn rhannol gan Sage, cyhoeddwyr International Relations, cylchgrawn Sefydliad Coffa David Davies.